Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cau Pont Briwet am byth
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd Pont Briwet - pont brysur dros Afon Dwyryd - yn cau am byth.
Daw'r penderfyniad yn dilyn ymchwiliad annibynnol i ddiogelwch y bont sy'n 154 blwydd oed.
Ar hyn o bryd mae gwerth 拢20m o waith ar droed i adeiladu pont newydd ar gyfer trenau a cheir. Bydd rhan gynta'r ffordd newydd ar agor i geir fis Mai 2014.
Tan hynny bydd cerbydau'n mynd drwy Faentwrog.
Bydd gan y bont newydd oes o 120 o flynyddoedd, traffig dwy ffordd gyda llwybr cerdded a beicio, ac yn ddigon cryf i gynnal cerbydau trwm a cherbydau'r gwasanaethau brys.
Doedd y bont bresennol ddim yn ddigon cryf i gynnal cerbydau trwm fel bysus a lor茂au.
Cyswllt hanfodol
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros yr amgylchedd: "Fel cyngor, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd Pont Briwet fel cyswllt trafnidiaeth hanfodol i bobl a busnesau yng ngogledd Meirionydd. Oherwydd hyn, mae pob ymdrech posib wedi ei wneud i gadw'r ffordd ar agor i draffig am gyn hired 芒 phosib yn ystod y cyfnod adeiladu."
Ychwanegodd Mr Roberts nad oedd y cyngor eisiau gweld y bont yn cau ond "nad oedd opsiwn ond i gau'r bont ffordd ar unwaith gan nad ydi hi bellach yn addas ar gyfer defnydd y cyhoedd".
"Rydym yn sylweddoli y bydd hyn yn achosi anhwylustod dros dro i bobl leol a'n prif flaenoriaeth rwan fydd gweithio gyda'r contractwyr a holl bartneriaid i sicrhau bydd y bont ffordd dros dro ar agor cyn gynted 芒 phosib."
Dirywiad sylweddol
Ychwanegodd Dafydd Wyn Williams, Prif Beiriannydd Gofal Stryd a Thrafnidiaeth Cyngor Gwynedd: "Dros y misoedd diwethaf, mae dirywiad sylweddol wedi bod yng nghyflwr y bont ac mae'r ffordd wedi bod ar gau dros dro i gerbydau ers 20 Rhagfyr.
"Dros gyfnod y Nadolig, ymddangosodd nifer o dyllau mawr ar y ffordd. Mae hyn, ynghyd 芒'r cyfyngiadau ymyl annigonol a'r ansicrwydd capasiti llwyth y bont wedi golygu bod rhaid cau Pont Briwet yn barhaol."
Eisoes, mae Network Rail wedi cyhoeddi na fydd trenau'n teithio rhwng Harlech a Phwllheli nes bydd y bont newydd yn barod.
Ers dechrau Tachwedd 2013, mae gwasanaethau Trenau Arriva Cymru wedi bod yn dod i ben yn Harlech, gyda bysus yn cludo teithwyr o'r fan honno i Benrhyndeudraeth, Porthmadog, Cricieth a Phwllheli.