Peilonau: 'Fel dewis rhwng crogi a saethu'
- Cyhoeddwyd
Mae bron 150 o bobl wedi mynd i gyfarfod ar Ynys M么n nos Wener i wrthwynebu codi peilonau trydan ar draws yr ynys.
Ddiwedd 2012, fe ddechreuodd y Grid Cenedlaethol drafod y dull o gludo trydan o brosiectau creu ynni megis Wylfa Newydd, a phrosiectau tyrbinau gwynt a ddisgwylir i gael eu hadeiladu yn y m么r yno.
Ar y pryd, y dewis oedd yn cael ei ffafrio gan y grid oedd un o bedwar coridor o beilonau newydd i gludo'r ynni at drosglwyddydd ym Mhentir ger Bangor.
Roedd nifer o drigolion Ynys M么n a Gwynedd yn credu y dylai'r ynni cael ei gludo draw i Lannau Dyfrdwy drwy ddefnyddio cebl tanddwr yn cychwyn o'r Wylfa.
'Crogi neu saethu?'
Ymhlith y siaradwyr yn cyfarfod yn Llanfairpwll nos Wener roedd Hywel Williams (AS Plaid Cymru, Arfon), Albert Owen (AS Llafur, Ynys M么n), Rhun ap Iorwerth (AC Plaid Cymru, Ynys M么n) a'r Cynghorydd Sian Gwenllian (Plaid Cymru, Y Felinheli), dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd.
Dywedodd y ddau aelod seneddol eu bod yn cydweithio gyda nifer o ASau eraill er mwyn ceisio gorfodi'r Grid Cenedlaethol i ymgynghori'n llawn, yn hytrach na'r hyn sydd wedi digwydd hyd yma sef cyhoeddi eu dewis gorau nhw.
Mae llawer o bobl oedd yn y cyfarfod yn meddwl y byddai peilonau yn effeithio ar harddwch yr ardal.
Mae'r Grid Cenedlaethol yn honni y gallai hynny gostio mwy na 拢2 biliwn tra bod y peilonau yn costio o gwmpas 拢500 miliwn.
Ar hyn o bryd mae'r Grid Cenedlaethol yn dweud eu bod yn dal i bori trwy ganlyniadau'r ymgynghoriad ac nad oes dewis terfynol wedi ei wneud eto.
'O fudd i Brydain gyfan'
Wrth siarad yn y cyfarfod nos Wener, dywedodd Hywel Williams AS fod rhoi'r dewis i drigolion o un o bedwar llwybr gwahanol i beilonau "fel rhoi'r dewis i rywun gael ei grogi neu ei saethu".
Dywedodd Albert Owen AS ei fod hefyd yn anhapus gydag ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol.
Ychwanegodd bod cynlluniau ynni mawr, gan gynnwys Wylfa Newydd a ffermydd gwynt yn y m么r, o fudd i Brydain gyfan nid dim ond yn lleol.
"O ystyried hynny," meddai, "dylai canfod arian i dalu am osod ceblau o dan y m么r i gysylltu Ynys M么n a'r tir mawr."
Cyn y cyfarfod dywedodd llefarydd ar ran Grid Cenedlaethol : "Rydym ni'n dal i ddarllen a mynd trwy ymatebion i'r ymgynghoriad.
"Rhaid i ni bwysleisio mai ffafrio peilonau oeddem cyn yr ymgynghoriad. Does yna ddim amserlen gennym ar gyfer cyhoeddi adroddiad o'r ymgynghoriad, na mynd ymlaen i'r cam nesaf."
Ar ddiwedd y cyfarfod fe alwyd am bleidlais gan Hywel Williams ar ddatganiad oedd wedi ei baratoi o flaen llaw, sef:
"Bod y cyfarfod hwn yn galw ar y Grid Cenedlaethol a DECC (Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan) i sicrhau y bydd cyflenwadau newydd o drydan yn cael eu cario o Ynys M么n ar geblau tanfor."
Cafodd y cynnig ei basio'n unfrydol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2014