Ffrae Cyngor Sir Gaerfyrddin ac archwilwyr yn cynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffrae rhwng awdurdod lleol a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cynyddu.
Roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cael ei feirniadu oherwydd addewid i dalu costau prif weithredwr yr awdurdod wrth iddo ddwyn achos enllib yn erbyn un o drigolion y sir.
Dywedodd adroddiad SAC bod penderfyniad y cyngor i dalu'r costau yn anghyfreithlon.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi gohebiaeth sy'n dangos, meddai'r cyngor, fod SAC yn fodlon fod yr awdurdod "o fewn eu hawliau".
Mae'r SAC wedi dweud eu bod yn fodlon ar ei adroddiad.
Dywedodd SAC y dylid datrys y mater "yn siambr y cyngor neu'r llysoedd, gan ychwanegu nad oedd y cyngor wedi cyhoeddi'r holl ohebiaeth".
'Diffygion'
Yn yr adroddiad yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd yr archwilydd cyffredinol cynorthwyol Anthony Barrett bod gwarantu i dalu costau'r prif weithredwr Mark James yn anghyfreithlon.
Dywedodd "nad oedd gan yr awdurdod y pwerau cyfreithiol i wneud taliadau o'r fath a bod diffygion yn y broses a ddefnyddiwyd gan y cyngor wrth wneud y penderfyniad".
Roedd yn ymwneud ag achos enllib Mr James yn erbyn Jacqui Thompson gafodd ei harestio wrth ffilmio cyfarfod o'r cyngor ar ei ff么n symudol.
Enillodd Mr James yr achos ac fe gafodd Ms Thompson orchymyn i dalu'r costau o 拢23,217.
Mae'r cyngor sir wedi talu mwy na 拢26,000 mewn costau cyfreithiol allanol ers 2012 oherwydd y penderfyniad.
Ychwanegodd Mr Barrett: "Mae gwrth-achos o enllib yn dal yn weithredol ac mae'n aneglur beth fydd y costau cyfreithiol i'r cyngor yn y pen draw."
'Archwilwyr yn fodlon'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y cyngor eu bod yn sicr eu bod wedi gweithredu'n gywir, gan honni nad oedd SAC wedi gwrthwynebu'r polisi pan fu ymgynghori 芒 nhw yn wreiddiol.
Ond ddydd Iau roedd datganiad ar wefan y cyngor yn mynd ymhellach, gan ddweud: "Am ddwy flynedd bron fe roddodd SAC yr argraff i'r cyngor ei fod yn gwbl fodlon bod yr awdurdod o fewn ei hawliau i roi gwarant i swyddog o'r cyngor i ddwyn achos ymatebol o enllib, ac roedd (SAC) yn ymwybodol o'r cyngor cyfreithiol yr oedd y cyngor wedi ei dderbyn i gefnogi'r penderfyniad.
"Yn wir rhyw chwe mis wedi'r penderfyniad fe wnaeth yr archwilwyr - wrth ymateb i gwestiwn gan un o drigolion y sir - gadarnhau eu bod yn fodlon bod y cyngor yn gweithredu o fewn ei hawliau.
"Rydym yn teimlo mai'r unig ffordd i brofi hyn yw cyhoeddi'r ohebiaeth fu rhwng yr archwilwyr a ni fel y gall pawb weld beth sydd wedi digwydd."
Mae'r cyngor hefyd wedi cyhoeddi'r cyngor cyfreithiol gawson nhw.
'Heb ddatgelu'r cyfan'
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru: "Mae'r archwilydd perthnasol yn ategu'n llawn y canlyniadau yn yr adroddiadau gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf.
"Y lle cywir i ddatrys y mater yma yw yn siambr y cyngor neu yn y llysoedd.
"Rydym yn disgwyl am gyfarfod Cyngor Sir Gaerfyrddin ar Chwefror 27 a'r penderfyniadau gan yr awdurdod am yr adroddiadau ddaw wedi hynny."
Ychwanegodd SAC fod "y cyngor ddim wedi datgelu'r cyfan o'r ohebiaeth fu rhyngddon ni".
Dywedodd dirprwy arweinydd gr诺p yr wrthblaid Plaid Cymru ar y cyngor, Tysul Evans: "Fel ag y mae hi nid yw arweinyddiaeth y cyngor eto wedi darparu tystiolaeth ddigamsyniol i gefnogi ei safbwynt wrth gwestiynu canlyniadau'r swyddfa archwilio annibynnol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014