Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynghorwyr tref yn agor cronfa i geisio achub coeden
Mae cyngor tref wedi agor cronfa er mwyn ceisio achub coeden enwog yn lleol a gafodd ei dymchwel gan y gwynt yr wythnos ddiwethaf.
Nod cynghorwyr Llanfyllin ym Mhowys yw gorchuddio gwreiddiau'r Goeden Unig sydd wedi edrych i lawr dros y dref am 200 mlynedd.
Fe fyddan nhw hefyd yn gosod ffens o amgylch y ffynidwydden er mwyn atal defaid rhag bwyta'r dail.
Bydd gwaith ar y cynllun yn dechrau dros y penwythnos.
Mae'r goeden yn atyniad i gerddwyr, ac mae llun ohoni'n cael ei ddefnyddio ar wefan y cyngor.
'Glasbren arall'
Dywedodd maer Llanfyllin, Ann Williams, y byddai arian sy'n cael ei godi i'r gronfa yn gymorth i dalu am y ffens.
Dywedodd: "Mae'n rhaid i ni orchuddio'r gwreiddiau cyn gynted 芒 phosib gan fod dau wreiddyn yn cadw'r goeden yn fyw.
"Unwaith y bydd hynny wedi ei wneud fe fydd rhaid disgwyl am flwyddyn o weld os fydd glasbren arall yn dechrau tyfu yno."
Roedd y goeden yn sefyll ar dir sy'n eiddo i gynghorydd arall, Peter Lewis, a dywedodd:
"Mae'r goeden mor bwysig i gymaint o bobl ac yn rhan hanesyddol o Lanfyllin, felly mae'n rhaid i ni geisio'i hachub.
"Mae fy nheulu wedi derbyn ceisiadau gan bobl sydd am daenu llwch eu perthnasau yn agos ati.
"Mae'n rhy hwyr yn y flwyddyn i geisio plannu coeden arall ar y safle, felly fe wnaethon ni benderfynu rhoi gobaith i'r goeden oroesi drwy orchuddio'r gwreiddiau."
'Gobaith o'i hachub'
Fe gafodd y cyngor gymorth Rob McBride, sy'n ymgyrchydd dros warchod hen goed pwysig.
"Yn sicr mae gobaith o'i hachub gan fod un gwreiddyn mawr yn dal yn sownd iddi," meddai.
"Rhaid gorchuddio'r gwreiddiau cyn iddyn nhw sychu ac mae'n bwysig nad yw'r defaid yn bwyta'r dail fel y gall y goeden gael maeth drwy ffotosynthesis.
"Dwi wedi gweld coed eraill sydd wedi dymchwel mewn gwynt yn goroesi diolch i broses o'r enw 'Phoenixing' - roedd un ohonyn nhw yn y Trallwng ac yno mae tri gwreiddyn yn tyfu o'r goeden wreiddiol."