大象传媒

Land and Lakes: Dal i ddisgwyl clywed

  • Cyhoeddwyd
Safle PenrhosFfynhonnell y llun, Land & Lakes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cynlluniau i godi 800 o gabanau eu cymeradwyo gan gyngor Ynys M么n ym mis Tachwedd

Bron i bedwar mis ers i wrthwynebwyr cynllun i godi pentre gwyliau ger Caergybi ofyn i Lywodraeth Cymru alw'r cais i fewn, mae cwmni Land and Lakes yn dal i ddisgwyl i glywed beth sy'n digwydd.

Cafodd y cynllun gwerth 拢100m i godi 800 o gabanau ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ynys M么n ym mis Tachwedd 2103 ar 么l iddyn nhw ei wrthod yn eu cyfarfod ym mis Hydref.

Ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Ymgyrch Achub Penrhos at y gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am gynllunio, Carl Sargeant, yn gofyn iddo weithredu, gan ddweud bod y datblygiad yn mynd yn groes i nifer o bolis茂au cynllunio Llywodraeth Cymru.

Roedd Cymdeithas yr Iaith yn dweud nad oedd asesiad annibynnol o effaith y datblygiad ar y Gymraeg wedi ei gwblhau, ac roedd Ymgyrch Achub Penrhos yn poeni ar yr effaith ar ardal o harddwch naturiol eithriadol .

Dywedodd Land and Lakes eu bod yn dal i ddisgwyl i glywed beth sy'n digwydd gyda'r ceisiadau hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae yna gais i alw'r cynlluniau i mewn ac mae swyddogion yn ystyried hyn."