Comisiwn Silk: Datganoli'r heddlu?

Disgrifiad o'r llun, Mae llywodraeth Cymru wedi gofyn am b诺er dros yr heddlu

Mae disgwyl i adroddiad dylanwadol ar ddyfodol datganoli ddydd Llun, ddweud y dylai llywodraeth Cymru gael p诺er dros yr heddlu.

Yn ogystal, mae disgwyl i Gomisiwn Silk alw am gynyddu'r nifer o Aelodau Cynulliad. 60 sydd ar hyn o bryd.

Hwn fydd ail adroddiad y Comisiwn, gafodd ei sefydlu gan lywodraeth San Steffan.

Fe ddywedodd yr adroddiad cyntaf - oedd yn edrych ar bwerau ariannol - y dylid cynnal refferendwm ar roi pwerau treth incwm i lywodraeth Cymru.

Fis Tachwedd, fe gadarnhaodd David Cameron bod llywodraeth San Steffan yn fodlon trosglwyddo ychydig o bwerau treth a benthyg i Fae Caerdydd.

Mae ail ran Comisiwn Silk yn canolbwyntio ar ffiniau pwerau llywodraeth Cymru.

Fe alwodd llywodraeth Cymru am ddatganoli nifer o bwerau yn cynnwys yr heddlu, cyfiawnder ieuenctid a chydsyniad dros brosiectau ynni sylweddol.

Ond mae llywodraeth San Steffan eisoes wedi dweud nad oes achos am newidiadau "radical" i ddatganoli.