Amddiffynfeydd newydd i yst芒d Glasdir
- Cyhoeddwyd
Mi fydd gwaith yn dechrau cyn hir ar wella'r amddiffynfeydd llifogydd o amgylch yst芒d Glasdir yn Rhuthun, yn 么l Cyngor Sir Ddinbych.
Roedd yr amddiffynfeydd wedi methu ym mis Tachwedd 2012 pan gafodd 120 o gartrefi eu taro wrth i'r yst芒d o dai gael ei hadeiladu.
Er bod y tai wedi cael eu hadeiladu ar dir gwastad, isel, roedd trigolion yn dweud eu bod dan yr argraff bod yr amddiffynfeydd yn golygu bod y siawns o lifogydd yn isel iawn.
Wal 3 troedfedd i warchod
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi caniat芒d i Gyngor Sir Ddinbych amddiffyn y tai gyda wal uchel 90cm.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn awyddus i orffen y prosiect mor fuan 芒 phosib, ond wedi'r gaeaf gwlyb, mae angen cyfnod o dywydd sych cyn i'r gwaith allu dechrau.
Yn 么l Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, Darren Millar, "Ers misoedd, mae'r trigolion wedi bod yn ysu i'r gwaith o amddiffyn eu cartrefi ddechrau."
"Dwi'n edrych 'mlaen i weld y gwaith wedi'i orffen cyn gynted 芒 phosib fel bod y rheiny sy'n byw ar y stad yn cael eu gwarchod rhag llifogydd, yn y ffordd maen nhw'n ei haeddu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012