Pencadlys S4C yn symud i Gaerfyrddin

Disgrifiad o'r llun, Argraff artist o'r adeilad newydd yng Nghaerfyrddin

Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi y bydd pencadlys y sianel yn symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Roedd yr awdurdod yn cyfarfod yn Llanisien drwy'r bore cyn cyhoeddi'r penderfyniad.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant arweiniodd y cais llwyddiannus.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro Medwin Hughes: "Dyma newyddion pwysig iawn yn natblygiad a pharhad yr iaith Gymraeg ar draws y rhanbarth.

'Catalydd'

"Mae hefyd yn holl-bwysig i ddatblygiad economi Sir G芒r, gan greu cyfleoedd newydd a swyddi newydd yn yr ardal.

"Yn wir, mae'n gatalydd pwysig tu hwnt ar gyfer datblygiad cyffredinol y rhanbarth cyfan."

Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: "Mae aelodau Awdurdod S4C wedi cael cyfle i glywed, darllen, trafod a chraffu ar gynlluniau gwych sydd wedi'u cyflwyno i ni gan ddau gr诺p 芒 gweledigaeth gref iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw.

"Rydym wedi cytuno ei bod hi'n ddichonol ac yn ymarferol bosib i symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin, ac yn unol 芒'n hamodau, mae'r cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno i ni yn gost-niwtral dros gyfnod.

"Rydym yn hyderus y byddai'r cynlluniau hyn o fudd i wasanaeth S4C, ac yn cynnig buddiannau economaidd ac ieithyddol yng Nghaerfyrddin. Fe fydd S4C nawr yn ceisio gwireddu'r dymuniad a'r uchelgais yma ar y cyd 芒'n partneriaid yn yr ardal."

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae'r penderfyniad hwn yn gam sylweddol ymlaen i'n cynlluniau i hybu'r economi a'r iaith mewn rhan arall o Gymru.

"Rwy'n llongyfarch partneriaid cais Caerfyrddin yn wresog ac, yn naturiol, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio ymhellach gyda nhw i wireddu'r cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno.

"Nawr mae gwaith mawr pellach i'w wneud i droi'r cynlluniau hyn yn realiti.

"Drwy wneud hynny, fe fyddwn ni'n cadarnhau lle S4C fel darlledwr cenedlaethol Cymru, a byddwn hefyd yn creu buddiannau economaidd, diwylliannol ac ieithyddol go iawn yng Nghaerfyrddin.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r pencadlys yn Llanisien, Caerdydd, ar hyn o bryd

'Hwb i'r iaith Gymraeg'

"Yr amod clir o'r cychwyn oedd bod angen gwireddu hyn mewn ffordd sy'n gost-niwtral ac sy'n diogelu ein cyllideb cynnwys i'r dyfodol.

"Hoffwn longyfarch hefyd partneriaid cais Caernarfon. Er na chawson nhw eu dewis yn y diwedd, mae eu gweledigaeth yn un arbennig o gyffrous i bobl y gogledd orllewin."

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud bod y penderfyniad yn newyddion gwych i'r ardal.

"Fe wnaeth y Drindod roi achos cryf iawn i S4C gartrefu yng Nghaerfyrddin ac rydyn ni'n falch iawn eu bod yn llwydiannus," meddai arweinydd y cyngor, Kevin Madge.

"Bydd y newid yn golygu creu tua 150 o swyddi ac mae'n wir hwb i'r economi leol.

"Mae hefyd yn hwb i'r iaith Gymraeg, gan gynnig swyddi o safon i siaradwyr Cymraeg.

"Rydyn ni'n falch iawn gyda'r penderfyniad fydd yn ysgogi twf yn y diwydiannau creadigol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda nhw."

'Siomedig tu hwnt'

Yn y cyfamser, dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Yn naturiol, mae'r cyhoeddiad yn siomedig tu hwnt.

"Dros y flwyddyn a rhagor diwethaf mae swyddogion a chynghorwyr wedi gweithio'n agos gydag S4C i ddatblygu cais cyffrous cryf ar gyfer adleoli i Gaernarfon oedd yn cwrdd gyda gofynion yr awdurdod.

"Er hyn, mae hon wedi bod yn broses bositif sydd wedi ein galluogi i arddangos potensial aruthrol Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru fel canolfan bwysig ar gyfer y diwydiannau creadigol.

"Ein bwriad r诺an ydi adeiladu ar y gwaith cadarnhaol yma er mwyn denu swyddi newydd o safon i'r ardal."

Fel rhan o'r cynllun, mae S4C wedi cytuno i'r egwyddor o "gydleoli elfennau o waith y sianel gyda'r 大象传媒 yng Nghaerdydd".

Dywedodd llefarydd ar ran 大象传媒 Cymru: "Rydym yn croesawu penderfyniad Awdurdod S4C i gytuno i'r egwyddor o gydleoli gwaith darlledu gyda'r 大象传媒 mewn canolfan newydd yng Nghaerdydd erbyn 2018.

"Mae penderfyniad yr Awdurdod yn dilyn cyfnod o gydweithio agos rhwng y darlledwyr. Mae disgwyl i Fwrdd ac Ymddiriedolaeth y 大象传媒 ystyried cynlluniau terfynol ar gyfer canolfan ddarlledu newydd o fewn yr wythnosau nesaf."

Astudiaeth

Fe gyhoeddodd S4C ym mis Medi eu bod am gynnal astudiaeth am symud y pencadlys yn dilyn trafodaethau gyda nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

Dywedodd S4C y byddai'r sianel yn parhau i gynnal "presendoldeb cryf" yn y brifddinas.

Yn 么l Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, y prif ffactorau oedd yn cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad o blaid Caerfyrddin oedd "manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol i un o'r ardaloedd hynny mewn ffordd sy'n ddichonol i'r sianel ac yn gost-niwtral ".