大象传媒

Teyrngedau i Derec Williams sydd wedi marw yn 64 oed

  • Cyhoeddwyd
Derek WilliamsFfynhonnell y llun, Evan Dobson

Mae Derec Williams o Lanuwchllyn wedi marw yn 64 oed.

Roedd Mr Williams, yn wreiddiol o Amlwch, yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn ac yn hwyrach Cwmni Theatr Meirion.

Rhoddodd oes o wasanaeth i blant a phobol ifanc fel athro ac ym myd y sioeau cerdd.

Mae'n gadael ei wraig Ann a thri o blant Branwen, Meilir ac Osian.

'Athro arbennig iawn'

Bydd tristwch am y newyddion o amgylch y Bala a Phenllyn, bro Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn hon, ardal lle'r oedd Mr Williams yn adnabyddus.

Yn ogystal 芒 sefydlu Theatr Maldwyn gyda Mr Williams a Linda Gittins yn 1981, roedd y prifardd Penri Roberts hefyd yn un o'i ffrindiau pennaf.

Gan roi teyrnged i'w gyfaill, dywedodd Mr Roberts: "Wel ma' 'na gymaint o haenau i Derec - fel athro, roedd o'n athro arbennig iawn - yn Llanidloes mae pobl dal i son amdano.

"Doedd o ddim y math o athro i ddysgu'r plant galluog yn unig, ond y math o athro oedd yn gwneud mathemateg yn agored i bawb."

Disgrifiad,

Mair Penri, Arfon Williams a Sara Meredydd yn cofio am Derec Williams gyda Garry Owen.

Roedd Mr Williams yn athro yn Ysgol y Berwyn yn y Bala.

'Ddim wedi newid dim'

Yn 么l Mr Roberts mae "cannoedd a miloedd o bobl ifanc" yn ddyledus i Mr Williams, nid yn unig am ei waith fel athro ond am iddo roi cyfle iddyn nhw i gymryd rhan mewn cymaint o sioeau ar hyd y blynyddoedd.

"Roedd yna un bachgen wedi mynd ato fo ar 么l ein cyngerdd ni yn y Bala bythefnos yn 么l a diolch iddo fo am be oedd o wedi ei wneud iddo fo," meddai Mr Roberts.

"A dw' i'n si诺r bod y bachgen ifanc hwnnw'n teimlo nid yn unig yn drist bore 'ma ond yn falch hefyd ei fod o wedi gwneud hynny.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plant Derec - Branwen, Meilir ac Osian - wedi ysgrifennu sioe gerdd gyda'i gilydd

"Weithia' dydyn ni ddim yn diolch digon i bobl tra oedden nhw efo ni yn de. Rhaid deud, fyddai Derec ddim wedi newid dim byd.

"Fe gafodd o gymaint o bleser o wneud be oedd o'n wneud efo Linda a fi ac efo Theatr Maldwyn a Meirion felly. Fydda fo ddim wedi newid dim yn ei fywyd fel 'na."

Yn 么l Mr Roberts roedd Derec yn "falch iawn" o'i blant sydd wedi dilyn ei 么l traed, gan fynd ati i ysgrifennu .

Mae'r perfformiad olaf o'r sioe honno, oedd yn fod i gael ei chynnal heno, wedi cael ei ohirio.

Cyfraniad aruthrol

Dywedodd y darlledwr a chynhyrchydd Nia Lloyd Jones o Faes Eisteddfod yr Urdd: "Ar 么l dod i'r maes bora 'ma mae rhywun yn ymwybodol yn syth, mae 'na dristwch yn naturiol.

"Mae nifer fawr o gyn aelodau cwmni Theatr Maldwyn a Meirion wrth gwrs yma'n stiwardio ac yn helpu o gwmpas y lle. Mae pawb yn ymwybodol o'r ffaith hynod drist yma a'r amseru wrth gwrs.

"Dyn arbennig iawn, iawn, dyn trefnus, pan roedd hi'n dod at bob cynhyrchiad, popeth yn ei le. Ac atgofion melys iawn ohono fo hynod o falch mod i wedi cael ei adnabod.

"Mae meddyliau pawb bora 'ma gyda'r teulu n么l yn Llanuwchllyn."

Un arall oedd am gydmdeimlo gyda'r teulu oedd Aled Si么n, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

Cyfeiriodd at y ffaith mai plant Mr Williams oedd yn gyfrifol am sioe ieuenctid yr Urdd eleni, 'Dyma Fi'.

Meddai: "Dydd Llun roedd y Baton ar y maes, ac mae'n arwyddocaol iawn fod Derec wedi trosglwyddo'r awenau i'r genhedlaeth nesa', i'w blant, i barhau gyda'r gwaith wnaeth e ddechre'.

"Roedd ei gyfraniad i ieuenctid yr ardal hon, ac ym myd theatr cerdd, yn aruthrol.

"A phan oedd angen cyngor arnon ni, fel Eisteddfod, yn y maes hwn, neu unrhyw beth i wneud hefo sioeau cerdd, Derec oedd yn cael yr alwad ff么n gynta' pob tro."

Roedd sioaeu poblogaidd Cwmni Theatr Maldwyn yn cynnwys Y Mab Darogan, Pum Diwrnod o Ryddid ac Ann.