Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gofal diwedd oes: 拢6.4m o gyllid
Mae gwerth 拢6.4 miliwn o gyllid wedi ei gyhoeddi i gefnogi hosbisau a darparu gofal diwedd oes yng Nghymru.
Fe fydd llywodraeth Cymru'n rhannu'r cyllid rhwng hosbisau a byrddau iechyd lleol, er mwyn gwneud yn siwr bod ymgynghorwyr arbenigol, nyrsys a chymorth iechyd arall ar gael ledled Cymru.
Fe fydd 拢2.6m o'r pecyn hwn yn benodol ar gyfer gofal lliniarol y mae hosbisau sector gwirfoddol yn ei ddarparu, a chyllid o 拢3.828m ar gyfer byrddau iechyd.
Mae gofal lliniarol yn canolbwyntio ar leddfu ac atal dioddefaint i gleifion, gan gynnwys y rheiny sy'n agos谩u at ddiwedd eu hoes.
Yn rhan o'r gwasanaeth, mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn gweithio i leddfu dioddef ymhob rhan o fywyd claf.
'Gofal cyson'
Fe ddywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford:
"Waeth lle mae cleifion yn byw yng Nghymru, wrth agos谩u at ddiwedd oes dylent gael gofal a chymorth da yn gyson.
"Mae cynnydd mewn meddygaeth a thriniaeth fodern yn golygu bod mwy o bobl yn byw'n hwy gyda chlefydau nad oes modd eu gwella.
"Os yw unigolyn am farw mewn ysbyty, mewn hosbis neu yn eu cartref, rydyn ni'n darparu cyllid i sicrhau bod lefel briodol o gymorth proffesiynol a thyner ar gael.
"Lle mae marwolaeth i'w ddisgwyl, mae'n rhaid i ni fod yn barod i gael sgyrsiau gonest ac agored am ddiwedd oes. Ddylai marwolaeth ddim bod yn dab诺.
"Mae paratoi a chynllunio ar gyfer diwedd oes gyda'r teulu, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn hanfodol o ran darparu gofal o ansawdd uchel."