Pryderon yngl欧n 芒 chynlluniau Cylchffordd Cymru

Yn 么l rhaglen Newyddion 9 mae pryderon wedi eu codi gan reolwyr dau o draciau rasio Cymru yngl欧n 芒 chynlluniau i ddatblygu trac rasio gwerth miliynau o bunnoedd yng Nglyn Ebwy.

Dywedodd rheolwr un trac rasio bod yr awgrym y gallai datblygiad Cylchffordd Cymru greu 6,000 o swyddi yn "hynod o optimistaidd" ac efallai y byddai'n gallu bod yn fethiant llwyr.

Mae rheolwr trac rasio arall wedi dweud ei fod yn poeni am sicrhau gwerth am arian. Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod datblygwyr Cylchffordd Cymru yn mynd i ofyn am 拢50 miliwn o gefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

Yn ddiweddar sicrhaodd datblygwyr Cylchffordd Cymru y byddai Pencampwriaeth Moto GP Prydain yn cael ei gynnal yno am y bum mlynedd nesaf, a dydd Mawrth cyhoeddwyd y byddai'n cael ei gynnal yn Donnington Park yn 2015.

Nid yw'r trac rasio yng Nglyn Ebwy wedi ei adeiladu hyd yn hyn ac mae'r datblygwyr yn parhau i chwilio am fuddsoddiad preifat.

'Trac rasio ychwanegol does neb ei angen'

Erbyn hyn mae eraill yn y diwydiant yng Nghymru wedi codi pryderon. Wrth drafod y 6,000 o swyddi sydd wedi eu hawgrymu gan y datblygwyr, dywedodd Christopher Bibb, Rheolwr Cyffredinol Trac M么n:

"Maen nhw'n optimistaidd iawn ac mae'r ffigwr wedi ei seilio ar ddenu busnes o 'ddyffryn chwaraeon moduro', sy'n radiws o tua 30 milltir oddi wrth Silverstone... bydd yna wrthwynebiad enfawr gan bobl yngl欧n 芒 symud ..... i ardal newydd ble rydan ni ddim yn gwybod os fydd pethau'n cychwyn, heb s么n am ffynnu."

Mae Trac M么n wedi derbyn ychydig dros 拢2 miliwn mewn grantiau yn y blynyddoedd diwethaf.

Aeth Mr Bibb ymlaen i ddweud: ""Beth sy'n fy mhryderu i ydi y byddan nhw efallai yn derbyn cefnogaeth grantiau, bydd y trac yn cael ei adeiladu, ond ni fydd y swyddi'n cyrraedd, ni fydd y buddsoddiad preifat yn cyrraedd.

"Byddwn ni'n cael ein gadael gyda thrac rasio ychwanegol does neb ei angen... a bydd gallu llawer o'r traciau rasio presennol i weithredu'n cael ei effeithio."

'Mwy o draciau rasio na chystadleuwyr'

Mae Phil Davies, Cyfarwyddwr Trac Rasio Pen-bre, hefyd wedi codi pryderon:

"Beth sy'n fy ffwndro ydi'r ochr ariannol, er bod rasio ceir yn fusnes eithaf mawr, tydi'r ochr yn ymwneud 芒 thraciau rasio ddim yn tueddu i wneud elw mawr.

"Felly sut mae'r ffigyrau'n gweithio mewn gwirionedd... maen nhw'n dweud ei fod o'n fuddsoddiad o 拢300 miliwn. Os caiff 拢100 miliwn o hwnnw ei wario yn adeiladu'r trac rasio, tydw i ddim yn gallu gweld, yn yr oes sydd ohoni, sut y bydd y buddsoddwyr yn gallu gwneud y pres hwnnw'n 么l.

"Dyna fy mhryder i, gwerth am arian i bobl Cymru. Mae gennym ni ddau drac rasio yng Nghymru, ac rydw i'n teimlo y byddai'n well, o ran gwerth am arian, pe bai'r traciau yma'n cael eu huwchraddio.

'Mewn trafodaethau'

Dywedodd llefarydd ar ran Cylchffordd Cymru:

"Bydd Cylchffordd Cymru yn ymateb mewn manylder i'r holl faterion sydd wedi eu codi yngl欧n 芒'r datblygiad gan raglen Newyddion 9 y 大象传媒.

"Ar hyn o bryd rydym ni mewn trafodaethau gyda nifer o bartneriaid masnachol a gyda lleoliadau rasio yn y DU i gynnal Cystadleuaeth Moto GP Prydain 2015.

"Cyn gynted 芒 bod y trafodaethau wedi dod i ben byddwn yn fodlon ymateb yn llawn."