Pryder am ddyfodol y ffordd drwy Goedwig Cwmcarn

Disgrifiad o'r llun, Un o sawl maes parcio ar y ffordd darmac 7 milltir sy鈥檔 mynd trwy鈥檙 goedwig
  • Awdur, Gan Iolo ap Dafydd
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru

Ymhen chwe wythnos, ar 2 Tachwedd, fe fydd y ffordd trwy Goedwig Cwmcarn, ger Caerffili, yn cael ei chau am o leiaf dwy flynedd.

Yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), rhesymau diogelwch sy'n gyfrifol am hynny, er mwyn torri dros 150,000 o goed llarwydd sydd wedi eu heintio 芒 ffwng o'r enw Phytophthora Ramorum.

Pryder rhai pobl sy'n byw gerllaw yng nghymoedd Gwent ydy nad ydy'r awdurdodau wedi addo y bydd y l么n yn cael ei hailagor yn 2016.

Yn 么l Rob Southall, sydd wedi arwain ymgyrch yn lleol yn erbyn cau'r ffordd, mae miloedd wedi arwyddo deiseb.

Henoed, teuluoedd ifanc a phobl anabl

Mae'i fab, Sam, yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Cwm Rhymni, ac yn dweud bod angen cadw'r ffordd yn agored ar gyfer henoed, teuluoedd ifanc a phobl anabl yr ardal.

"Mae llawer o bobl yn methu cerdded fyny yna, pobl hen a phobl anabl, felly mae hwn yn ffordd iddyn nhw fynd lan. Pobl efo plant hefyd, tydyn nhw ddim yn gallu cerdded holl ffordd fyny, felly maen nhw'n gyrru reit lan."

Dros y Sul mi fu CNC, sydd 芒 chyfrifoldeb am holl goedwigoedd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynnal sesiynau galw heibio i roi gwybodaeth i bobl yngl欧n 芒 chynlluniau i gwympo coed yng nghoedwig Cwmcarn.

Yn 么l rheolwr tir CNC, Andy Schofield, mae'r gwaith fydd yn cael ei wneud yn hanfodol er mwyn diogelu coed ledled y wlad.

Dywedodd: "Yr hyn sydd wedi digwydd yw fod y clefyd llarwydd wedi ymledu dros dde Cymru wedi iddo gael ei ddarganfod am y tro cyntaf yn 2010, ac mae nawr yn cael ei ystyried i effeithio ar 6,000 acer yn y wlad sydd yn gyfystyr 芒 chwe miliwn o goed.

"Yma yng Nghwmcarn mae gennym ni rhwng 150,000 a 160,000 o'r coed heintus yma ac er mwyn atal ymledu pellach yn ogystal 芒'i atal rhag symud o un rhywogaeth i'r llall mae'n rhaid i ni symud y coed."

Atyniad poblogaidd

Yng Ngwmcarn, CNC sy'n rheoli'r ffordd a'r goedwig, ond Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili sydd 芒 gofal am y ganolfan ymwelwyr, y siop a'r atyniadau eraill ger y fynedfa i'r goedwig.

Yn 么l y Cynghorydd lleol Ken Smith, mae swyddogion y cyngor yn pwysleisio y bydd yr holl lwybrau cerdded a'r llwybrau beicio mynydd newydd yn aros yn agored trwy gydol y cyfnod torri coed.

Dywed swyddogion y sir fod dros chwarter miliwn o bobl wedi ymweld 芒 choedwig Cwmcarn y llynedd. Mae'r goedwig a'r l么n i fodurwyr ymysg y 10 atyniad mwyaf poblogaidd yng Nghymru o ran y niferoedd sy'n mwynhau mynd yno.

Y broblem yn lleol i nifer ydy na all swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru warantu y bydd y l么n yn ailagor ymhen dwy flynedd.

Dim addewid

Yn 么l Danielle Hitt, o CNC, gyda dim addewid o beth fydd cyllideb y gwasanaeth amgylchedd yn 2016, mae'n amhosibl dweud yn bendant y bydd ffordd Coedwig Cwmcarn yn agored i fodurwyr yn y dyfodol.

"Bydd rhaid gwneud gwaith sylweddol i'r ffordd er mwyn ailagor e a bydd hynne'n costio llawer o arian," meddai.

"Fel mae cyllid yn y sector cyhoeddus ar y funud ni'n ffili gwneud addewid ein bod ni'n mynd i wneud hynny.

"Ond be 'dan ni yn ei wneud ydi edrych mewn i opsiynau ar gyfer y dyfodol yngl欧n 芒 beth allwn ni wneud gyda'r ffordd, naill ai ailagor e fel y mae neu ailagor rhan ohono fe."

Mi fydd angen torri coed am flynyddoedd yn yr ardal, ond gan fod 80% o goed Cwmcarn yn llarwydd, fe fydd 400 erw'r ardal yn cael eu trawsnewid.

Yn raddol bydd y coed conwydd a blanwyd gyntaf oll ym 1922 yn cael eu cyfnewid am goed cynhenid.