Cludo nwyddau ar Reilffordd y Cambrian?

Disgrifiad o'r llun, Mae gobaith y bydd y cynllun yn gostegu traffig trwm lor茂au ar ffyrdd yr ardal

Mewn cyfarfod o'r cyngor llawn mae Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cynnig i gefnogi defnyddio Rheilffordd y Cambrian i gludo nwyddau.

Ar hyn o bryd, yn 么l y cynghorydd Mark Strong a gyflwynodd y cynnig, does dim nwyddau yn cael eu cludo ar y rheilffordd er bod y seilwaith angenrheidiol yn ei le.

Bydd y cyngor yn dechrau trafodaethau gyda llywodraeth Cymru a Network Rail i adnabod ffynonellau cyllid er mwyn datblygu'r gwasanaethau ar gyfer nwyddau.

Fe wnaeth Mr Strong ddod 芒'r cynnig gerbron y cyngor ar 么l i Network Rail ddweud eu bod yn rhagweld y bydd cynnydd yn y galw am ddefnyddio'r rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau.

Yn 么l Network Rail mae disgwyl y bydd defnydd o'r rheilffyrdd ar gyfer cario nwyddau yn cynyddu 30% yn y ddegawd nesaf.

Gostegu traffig

Cynnig Mark Strong oedd bod "Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi defnyddio Rheilffordd y Cambrian ar gyfer trosglwyddo nwyddau, er mwyn hybu economi'r Sir.

"Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall hyn ostegu traffig trwm lor茂au ar yr A44 a'r A487."

Y cynghordd Dai Mason oedd yr eilydd.

Cafodd y cynnig gefnogaeth y cyngor llawn gan aelodau o bob grwp.

Fel rhan o'r cynllun mae'r Cyngor yn ystyried ail-agor gorsaf Bow Street ar gyrion Aberystwyth.

Disgrifiad o'r llun, Mae nwyddau'n cael eu cludo i siopau'r ardal yn ddyddiol