Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hyfforddiant i athrawon yng Nghymru yn 'yn anniben', medd Huw Lewis
Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn dweud ei fod am weld "trefn" yn y system hyfforddi athrawon yng Nghymru.
Fe ddywedodd wrth raglen Sunday Politics y 大象传媒 fod angen i athrawon "dderbyn yr her" wrth i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol newid.
Ychwanegodd Mr Lewis y bydd y TGAU Cymru'n unig - sydd ar y gweill y flwyddyn nesa' - yn "gadarn" a "heriol".
Ers mis Medi, mae'n rhaid i ysgolion egluro sut mae'n nhw'n cyrraedd anghenion datblygiad proffesiynol eu staff.
Mae'n rhan o "fargen newydd" i hyfforddi athrawon - gafodd ei lansio yn gynharach eleni.
Fe ddywedodd Mr Lewis: "Yn aml, mae'n anodd i athro mewn awyrgylch ysgol brysur allu llywio eu gyrfa drwy ddryswch nifer y cyrsiau sydd ar gael.
"Mae'n anodd gwybod lle i droi os ydych chi'n anelu at gael eich dyrchafu yn bennaeth adran, er enghraifft.
"Dw i eisiau rhoi trefn ar yr anibendod 'na, a gweithio gyda'r arbenigwyr i wneud yn siwr fod gennym ni lwybr gyrfa mae athrawon yn ei ddeall, a sydd ar gael i bob athro."