Mesur Trais: 'Angen newidiadau sylweddol'

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Disgrifiad o'r llun, Mae adroddiad y pwyllgor yn galw am wersi gorfodol mewn ysgolion yngl欧n 芒 pherthnasau iach er mwyn helpu newid agweddau.

Mae angen "newidiadau sylweddol" i'r MesurBil Trais er mwyn pwysleisio mai merched yw'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n dioddef, yn 么l un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Nod y Mesur yw mynd i'r afael cham-drin domestig a thrais rhywiol,

Mae ymgyrchwyr wedi honni na fydd y Mesur Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn gwneud digon i ddiogelu menywod rhag trais.

Ac yn 么l Christine Chapman, Cadeirydd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad mae angen i'r Mesur gyfeirio at "Drais yn Erbyn Menywod" yn hytrach na "Thrais ar Sail Rhywedd" gan y byddai hynny'n adlewyrchu'r modd anghymesur y mae menywod yn cael eu heffeithio gan drais a cham-drin domestig.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn dweud bod angen gwersi gorfodol mewn ysgolion yngl欧n 芒 pherthnasau iach er mwyn helpu newid agweddau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod cynnwys y ddeddf yn fwy pwysig na'i theitl.

'Anghenion penodol'

Mae'r adroddiad yn nodi bod ACau wedi cytuno 芒'r rheiny roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad, y dylai'r Mesur sicrhau gwasanaethau ar gyfer unrhyw un sy'n dioddef o drais.

Ond ychwanegodd y byddai pwysleisio mai merched sy'n fwyaf tebygol o ddioddef trais yn sicrhau bod y gwasanaethau'n cael eu teilwra i "anghenion penodol" merched a dynion.

Yn 么l Christine Chapman mae addysg yn hanfodol o ran newid agweddau " ac felly dylid cynnwys darpariaeth orfodol i ysgolion ddarparu rhaglenni addysg ysgol gyfan sy'n briodol o ran oed ar berthnasau iach."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylid pwysleisio effaith cam-drin domestig ar blant ac mae'n galw ar y llywodraeth i ail-ystyried goblygiadau ariannol y Mesur oherwydd y byddai ei gyflwyno yn debygol o gynyddu'r galw am wasanaethau.