Ateb y Galw: Arwel Gildas

Yr wythnos hon y cerddor Arwel Lloyd, sy'n canu o dan yr enw Gildas, sy'n Ateb y Galw gan 大象传媒 Cymru Fyw. Cafodd Arwel ei enwebu gan y gantores a'r awdures Fflur Dafydd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd mewn carafan yn Pen Ll欧n neu rwle felly, yn brwsho fy nannedd, hithe'n bwrw hen wragedd a ffyn tu allan.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Jet o'r Gladiators a Libby Kennedy o Neighbours.

Disgrifiad o'r llun, Byddai Arwel wedi mwynhau byw drws nesa' i Libby Kennedy

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Baglu a disgyn ar fy wyneb i bwll enfawr o fwd yn Wakestock 2007.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Gwylio'r ffilm '12 Years a Slave' tua 10 mis yn 么l - faswn i'n rhoi her i unrhywun beidio crio ar ddiwedd honno.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta ac yfed coffi yn y car rownd y r卯l.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Fflorens yn yr Eidal. Nesh i ddisgyn mewn cariad efo'r lle pan es i yno Pasg dwetha. Lle anhygoel.

Disgrifiad o'r llun, "Well i mi fod yn ofalus ar 么l beth ddigwyddodd i Arwel!"

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson y mileniwm yn Llansannan hefo'r teulu - mi gawsom ni barti mawr a mynd i wylio'r haul yn gwawrio bore wedyn.

Oes gen ti dat诺?

Nagoes, dim hanner digon c诺l i gael wbeth felly.

Beth yw dy hoff lyfr?

Montaillou, village occitan de 1294 脿 1324 gan Emmanuel Le Roy Ladurie.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Cot law.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Monuments Men - ffilm wael ar y naw. Mae'r llyfr llawer gwell.

Disgrifiad o'r llun, Monuments Men - Roedd y llyfr yn lot gwell yn 么l Arwel

Dy hoff albwm?

Cwestiwn amhosib, ond os oes rhaid - Solid Air - John Martyn

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Cwrs cyntaf, bwyd m么r fel arfer.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio os dio'n bwysig.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Un o'r bobl sydd yn yr International Space Station ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, NASA

Disgrifiad o'r llun, "Drychwch! Dwi'n gallu gweld Llansannan o fama!"

Pwy fydd yn ateb y galw wythnos nesaf?

Eilir Jones