Hwyl yr 糯yl wrth godi arian i ymgyrch T卯m Irfon

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, Rebecca ac Irfon Williams, sylfaenwyr T卯m Irfon

Ddydd Sadwrn bydd trigolion yng ngogledd orllewin Cymru'n dod ynghyd i gefnogi ymgyrch dyn o Fangor, sy'n codi arian ar gyfer uned ganser ei ysbyty lleol.

Penderfynodd Irfon Williams a'i wraig, Rebecca, sefydlu ymgyrch T卯m Irfon ar 么l darganfod ei fod o'n diodde' o ganser y coluddyn. Mae wrthi'n cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd.

Pan gafodd yr ymgyrch ei lansio chwe mis yn 么l, y nod oedd codi 拢20,000 ar gyfer Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd.

Erbyn hyn, mae'r gwirfoddolwyr wedi codi bron i 拢53,000 trwy wneud pob mathau o weithgareddau a heriau.

Ddydd Sadwrn bydd Stryd Fawr Bangor yn llawn Santas o bob lliw a llun, wrth i'r ymgyrch gynnal Ras Si么n Corn fel rhan o ddathliadau Nadolig y ddinas.

Gwraig Irfon, Rebecca, sydd wedi trefnu'r ras un filltir o hyd, sy'n dechrau wrth y cloc ym Mangor, gyda'r gobaith o roi hwb Nadoligaidd i'r coffrau.

'Hwyl yr 诺yl'

Meddai: "Mae'r Ras Si么n Corn yn ffordd wych i gael pobl o bob oed a gallu i hwyl yr 诺yl, gan godi ymwybyddiaeth o, ac arian ar gyfer gwasanaethau canser lleol."

Un o brif amcanion yr ymgyrch yw tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl cleifion canser, rhywbeth sy'n agos at galon y cwpwl, sydd wedi bod yn gweithio fel nyrsys seiciatryddol.

Mae canser yn gallu cael effaith andwyol ar stad feddyliol rhai sy'n diodde', ond yn 么l Mr Williams, gall therap茂au amgen a gwasanaethau cwnsela helpu cleifion a'u teuluoedd.

Gan bod rhain yn wasanaethau ychwanegol i'r gofal iechyd sylfaenol, rhoddion elusennau sydd fel arfer yn ariannu triniaethau o'r fath.

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, Bydd y c么r Tenovus lleol yn canu fel rhan o'r digwyddiad ddydd Sadwrn

'Cefnogaeth anhygoel'

Meddai Mr Williams: "Dros y misoedd diwetha' dwi wedi gweld pa mor anhygoel ydy'r nyrsys ar ward Alaw, ond mae gofal anhygoel angen cefnogaeth anhygoel.

"Mae'r Uned angen dros 拢150,000 mewn rhoddion pob blwyddyn er mwyn ariannu gwasanaethau ychwanegol sy'n helpu i wneud bywydau cleifion yn haws."

Mae nifer y bobl sy'n diodde' o ganser yn cynyddu, gyda disgwyl y bydd bron i hanner y boblogaeth yn diodde' o'r clefyd erbyn 2020.

Roedd Uned Alaw wedi gofalu am dros 1,500 o gleifion canser y llynedd.

Ychwanegodd Mr Williams: "Rydw i eisiau gwneud yn si诺r fod y staff gwych yn Alaw'n gallu parhau am flynyddoedd i gynnig gofal ychwanegol, triniaethau ac ymchwil sy'n cael ei ariannu trwy elusen Awyr Las."