Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Edwina Hart i gyhoeddi arolwg o gynllun parcio anabl
Mae cynlluniau i gynnal adolygiad o'r cynllun bathodyn parcio i bobl anabl wedi cael ei gyhoeddi, ar 么l cynnydd yn y nifer o geisiadau gafodd eu gwrthod oherwydd rheoliadau newydd.
Fe wnaeth Gweinidogion y Cynulliad newidiadau i'r system yn 2013 er mwyn ceisio atal pobl rhag cam-drin y sefyllfa.
Ond fis diwethaf, fe wnaeth 大象传媒 Cymru ddarganfod fod nifer y gwrthodiadau mewn rhai ardaloedd wedi mwy na threblu mewn tair blynedd.
Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cydnabod fod "problemau" gyda'r ffordd y mae'r cynllun yn cael ei redeg a dywedodd y byddai hyn yn "adolygiad cyflym".
Gwrthod bathodyn
Mae bathodynnau glas yn cael eu rhoi i bobl sydd 芒 phroblemau symud neu anableddau ac yn caniat谩u i'r gyrrwr i barcio ar linellau melyn dwbl neu mewn mannau arbennig.
O dan y rheoliadau gafodd eu gosod yn 2013, nid yw awdurdodau lleol yn dibynnu ar dystiolaeth gan feddygon teulu yn unig erbyn hyn, ac felly mae pryderon fod pobl ag anableddau dilys yn cael eu gwrthod am fathodyn.
Mewn datganiad dywedodd Ms Hart ei bod yn "ehangu cymhwysedd lle bo hynny'n briodol" ac "y dylai pob un sy'n ymgeisio am fathodyn glas gael eu trin yn deg ac yn gyson waeth pa awdurdod lleol neu ardal y maent yn byw ynddi".
Dywedodd Ms Hart y byddai hi'n cyhoeddi canlyniad yr adolygiad a'r "camau nesaf" yn y flwyddyn newydd.