Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Gall isafswm pris alcohol arbed 拢880m i Gymru'
Byddai cyflwyno isafswm pris alcohol o 50c i bob uned yn arbed 拢880m i economi Cymru, oherwydd y lleihad mewn troseddu a salwch yn 么l adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn awgrymu y byddai gosod isafswm pris yn lleihau'r marwolaethau o ganlyniad i alcohol i tua 50 y flwyddyn, ar 么l 20 mlynedd.
Daeth ymchwilwyr o Brifysgol Sheffield i'r canlyniad y byddai isafswm pris yn lleihau defnydd alcohol o 4% yr wythnos.
Dywedodd gweinidog iechyd Cymru bod yr adroddiad yn dangos y "manteision sylweddol i iechyd y genedl" o osod pris o'r fath.
Effaith sylweddol
Daw'r adroddiad i'r canlyniad y byddai gosod isafswm o 50c i bob uned yn cael effaith sylweddol ar arferion gwario pobl yng Nghymru, yn ogystal ag arbed 拢882m i'r economi.
Byddai'r arbedion yn dod oherwydd lleihad "niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, cyfnodau mewn ysbyty, troseddau ac absenoldebau yn y gweithle, a'r costau sy'n gysylltiedig".
Mae'r adroddiad yn dweud na fyddai'r newid yn effeithio ar bobl sy'n yfed yn 'gymedrol', ond y byddai'n cael effaith mawr ar "yfwyr risg gynyddol" ac "yfwyr risg uwch".
Hefyd, mae'n dweud bod iechyd pobl dlawd yn fwy tebygol o wella o ganlyniad i'r newid.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y byddai'r newid yn achosi:
- 3,700 yn llai o droseddau bob blwyddyn
- 10,000 yn llai o ddiwrnodau o salwch i weithwyr
- 1,400 yn llai o bobl yn mynd i ysbytai.
'Llai o farwolaethau'
Mae gweinidog iechyd Cymru, Mark Drakeford, wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud ei fod yn dangos y "manteision sylweddol i iechyd y genedl, gan leihau'r camddefnydd o alcohol a'r niwed sy'n gysylltiedig ag yfed".
Ychwanegodd: "Byddai'n golygu llai o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ac yn lleddfu baich niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ar GIG Cymru.
"Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar waith cyngor y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod marwolaethau a chlefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu wrth i gost alcohol ostwng.
"Byddwn yn ystyried y canfyddiadau hyn ac yn dal i ddatblygu ein cynigion gyda golwg ar gyflwyno deddfwriaeth."