Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Economi'r canolbarth 'ar ei liniau', yn 么l elusen
Mae economi canolbarth Cymru "ar ei liniau" ac mae angen i lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu, yn 么l pennaeth elusen yn Aberystwyth.
Dywedodd Guy Evans o Gymdeithas Ofal Ceredigion bod y canolbarth yn troi yn "ddiffeithdir economaidd" a bod pobl yn gadael i chwilio am fwyd, cartrefi a gwaith.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales: "Os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud i newid y drefn bydd bwlch economaidd a diwylliannol yng nghanolbarth Cymru."
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae arian sylweddol wedi ei wario i hybu twf economaidd ac i hybu creu swyddi yn yr ardaloedd hynny dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae rheolwyr banc bwyd Aberteifi wedi dweud wrth raglen Sunday Politics Wales fod cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n defnyddio eu gwasanaeth.
Dywedodd Alan Faunch, sy'n helpu i reoli'r banc bwyd, bod llawer o bobl "un bil i ffwrdd o beidio bwyta".
"Mae pobl yn cael trafferth cael gwaith a delio gyda'i anghenion. Mae swyddi yn brin iawn ac yn syml does dim economi yma."
'Bwlch enfawr'
Ychwanegodd Mr Evans bod polis茂au llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi coridorau'r A55 a'r M4, a bod "bwlch enfawr yn y canol".
Dywedodd nad oes yr un o barthau menter y llywodraeth yn y canolbarth, a bod cynlluniau 拢1 biliwn i adeiladu ffordd osgoi'r M4 yng Nghasnewydd yn gwneud i bobl deimlo bod angen i'r llywodraeth "ail-feddwl eu blaenoriaethau".
Daw'r alwad yn dilyn trafodaethau diweddar am yr angen i ddiwygio Fformiwla Barnett a rhannu arian ar sail angen yn hytrach na phoblogaeth.
Ychwanegodd: "Nid am ddwysedd poblogaeth yn unig yw hi, ond yr agen mewn ardaloedd ac mae ardal wledig y canolbarth yn sicr yn un o'r rheiny."
Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: ''Rydym yn sylweddoli'r pwysau sydd yn wynebu cymunedau yng nghanolbarth Cymru a dyma pam y gwnaethom greu Ardaloedd Twf Lleol i hybu twf economaidd ac i hybu creu swyddi yn yr ardaloedd hynny.
''Fel rhan o'r fenter yma rydym newydd benodi Pencampwr Tref i Landrindod, sef argymhelliad canolog y gr诺p busnes lleol i gefnogi twf economaidd cynaliadwy yn y dref. Drwy ein rhaglen Twf Swyddi Cymru rydym wedi creu cyfleoedd i 2000 o bobl ifanc yng nghanolbarth Cymru, ac ers 2008 rydym wedi cynorthwyo i sefydlu 1,764 o fusnesau newydd a bron i 2500 o swyddi drwy Wasanaeth Busnes Cymru''.
"Yn y pum mlynedd diwethaf yn unig mae mwy na 拢8.8m o arian Llywodraeth Cymru wedi ei fuddsoddi i adnewyddu Aberystwyth, tra bod 拢3.75m ychwanegol wedi ei rannu rhwng Cynghorau Ceredigion, Powys a Sir Benfro i gefnogi eu trefi a dod a bywyd newydd i siopau gwag.''