Ateb y Galw: Derec Llwyd Morgan

Yr Athro Derec Llwyd Morgan sydd yn cael ei holi yn dwll yr wythnos yma gan Cymru Fyw wedi iddo gael ei enwebu gan Dei Tomos yr wythnos ddiwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod ar lin fy mam-gu yng ngardd y tÅ· lle'm ganed, ond lled debyg mai atgof o weld ffotograff ohonof ar lin fy mam-gu yn yr ardd yw'r atgof hwnnw, achos bu hi farw pan oeddwn i'n ddwy.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Heb os, Marilyn Monroe.

Disgrifiad o'r llun, Petai'r bêl 'na yn llaw Marilyn wedi bod yn bêl griced byddai Derec wedi bod yn ei seithfed nef!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat erioed?

Mewn bwyty, pan oeddwn yn ifanc a thlawd, talu bil rhywun arall, bil y gwyddwn ei fod yn llai na fy mil disgwyliedig i, a'i heglu hi oddi yno heb gymryd arnaf i mi wneud cam â'r perchennog.

Byddaf yn cywilyddio bob tro y pasiaf y bwyty hwnnw, er ei fod wedi newid dwylo droeon.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Y mae gen i ŵyr awtistig sy'n glyfar gyda geiriau. Pan adroddais wrtho'r hysbyseb cynganeddol enwog 'Dylai pawb gael "Daily Post"', atebodd ef ar amrantiad 'Dylai pawb gael daily pŵ' - llinell gynganeddol a oedd (i mi, beth bynnag am neb arall) yn ddoniol hyd at ddagrau.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ers llawer dydd, colli fy nhymer yn rhwydd; ond y mae'r blynyddoedd wedi dysgu pwyll imi.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Copenhagen yn yr haf, Fenis yn y gaeaf, Llundain unrhyw adeg.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson yr enillodd Plaid Cymru Ynys Môn yn 1987, sgwâr Llangefni yn llawn o genedlaetholwyr a'n tŷ ni yn Llanfair-pwll yn llawn o fyfyrwyr o Aberystwyth a ddaeth yno gyda fy merch i ddathlu cyn cysgu.

Disgrifiad o'r llun, Sgwar Llangefni dan ei sang ar noson Etholiad Cyffredinol 1987

Oes gen ti datŵ?

Buaswn yn anghyfreithloni tatŵs pe cawn.

Beth yw dy hoff lyfr?

Yr un y byddaf yn mynd yn ôl ato amlaf yw Rhys Lewis gan Daniel Owen.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Ar un adeg buaswn wedi dweud fy nheis (yn y lluosog). Erbyn hyn, yn y gaeaf, fy nhrowsus melfared; yn yr haf, fy het wellt.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist ti?

Mr Turner, a'i mwynhau yn ofnadwy iawn.

Disgrifiad o'r llun, Timothy Spall yn dehongli bywyd yr artist athrylithgar JMW Turner

Dy hoff albwm?

Mythical Kings gan Dory Previn.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Cinio twym: cig eidion, pwdin Swydd Efrog, tato rhost, moron a Brwsel sprowts. Neu, os yw amser yn brin, chilli con carne Jane.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Y peth gorau gen i erbyn hyn yw e-bostio, ond gan fy mod wrth fy modd - fel pawb o'm cenhedlaeth, am wn i - yn derbyn llythyron byddaf weithiau yn ysgrifennu llythyron at rai pobl.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Y batiwr Joe Root ddawnus serchog, sy'n 23ain oed, eisoes yn sâff o'i le yn nhîm criced Lloegr, a'r gapteiniaeth yn ei ddisgwyl. Ond wrth gwrs dim ond am ddiwrnod y cawn i fod yn Joe Root…

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gan efelychu Joe Root mae Derec wedi batio cwestiynau busneslyd Cymru Fyw i gyfeiriad Roy Noble

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Roy Noble