大象传媒

Adfer rhan o reilffordd Gwili yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aled Scourfield, gohebydd 大象传媒 Cymru, a Rob Phillips, un o Gyfarwyddwyr Rheilffordd Gwili, oedd ymhlith y gwesteion ar y tr锚n cyntaf ar ran o'r rheilffordd sydd wedi bod ar gau ers bron i 50 mlynedd.

Yn achlysurol iawn, mae gohebydd Newyddion yn medru honni ei fod yn dyst i ddigwyddiad hanesyddol.

Yn ddiweddar, fe ges i'r fraint o fod ar y tr锚n cyntaf i gludo teithwyr ar ran o reilffordd sydd wedi bod ynghau ers bron i hanner can mlynedd.

Ers 15 mlynedd bellach, mae gwirfoddolwyr Rheilffordd Gwili wedi bod yn gweithio'n ddyfal i geisio ailagor rhan o'r hen reilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Mae'r gwaith o adfer y lein wedi costio rhyw 拢300,000 ac mae yna gyfraniadau ariannol sylweddol wedi bod gan gwmni Cwm Environmental a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Cafodd y cledrau gwreiddiol eu codi ym 1977, felly mae gwirfoddolwyr wedi gorfod gosod trac o'r newydd bob cam o'r ffordd o'r orsaf ym Mronwydd i Abergwili - yng nghysgod Ysbyty Glangwili ar gyrion Caerfyrddin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y tr锚n cyntaf o Fronwydd i Abergwili

Dywedodd Rob Phillips, un o Gyfarwyddwyr Rheilffordd Gwili: "Ry'n ni wedi gweithio ar hyn ers blynyddoedd ... mae hyn yn cyflawni breuddwyd i lot ohonon ni.

"Mae yna lot o waith cynllunio wedi bod, ceisio am arian cyn i ni ddechrau ar y gwaith ar y tir ac wedyn roedd rhaid clirio'r lein, torri coed i lawr, trwsio ffensys a gosod balast.

"Mae tipyn o waith o hyd cyn bod y lein yn agor i'r cyhoedd yn swyddogol, ond ry'n ni'n gweld diwedd y twnnel nawr ..."

Gwaith ar yr estyniad newydd

  • 1.75 milltir o hyd

  • 300 rhan o drac

  • 4000 o drawstiau concrit

  • 5000 tunnell o falast

Pan fydd yr estyniad yn cael ei agor yn swyddogol, mi fydd hyd y rheilffordd yn ymestyn i 4 milltir.

Mae Rheilffordd Gwili yn gobeithio agor yr estyniad i deithwyr rhywbryd cyn 20 Chwefror 2015 - hanner can mlwyddiant y daith olaf ar hyd rhan ddeheuol y lein o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr orsaf newydd yn Abergwili

Ffynhonnell y llun, John Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid atal gosod y cledrau ar 么l i goed gwympo oherwydd gwyntoedd cryfion ym mis Ionawr