Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢1.5m i Draphont Dd诺r Pontcysyllte
Gall dros 拢1.5 miliwn gael ei wario i ddenu ymwelwyr i safle Traphont Dd诺r Pontcysyllte ger Wrecsam.
Mae cynllun ar gyfer y tair i 10 mlynedd nesaf wedi cael ei ddylunio gan ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Wrecsam a'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.
Mae'r awgrymiadau yn cynnwys caffi newydd a phlatfform golwg i ymwelwyr, yn ogystal 芒 maes parcio estynedig.
Bydd cynghorwyr o Gyngor Wrecsam yn cyfarfod i drafod sut y bydd y 拢1,580,904 yn cael ei ariannu.
Mewn cyfarfod ddydd Mercher, canolbwynt y drafodaeth fydd y cynnig i godi t芒l i barcio ar y safle ac i ddefnyddio'r cyfleusterau toiledau yno.
Mae'r AS dros Dde Clwyd, Susan Elan Jones, yn croesawu'r adroddiad:
"Y peth pwysig i'w wneud nawr yw sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gynyddu'r amser mae pobl yn treulio yma."
Mae nifer yr ymwelwyr i'r safle wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ers i'r draphont dd诺r gael ei wobrwyo 芒 statws safle Treftadaeth y Byd yn 2009.
Er hynny, mae'r adroddiad yn dweud bod ymwelwyr yn gadael o fewn awr o gyrraedd ar gyfartaledd.