Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mamgu Billy Elliot
O gownter siop Magi Post yng Nghwmderi i lwyfannau'r West End, mae Gillian Elisa wedi cael gyrfa amrywiol iawn!
Er ei bod hi wedi bod yn chwarae rhan mamgu Billy Elliot yn y West End yn achlysurol yn ystod y bedair blynedd ddiwethaf, mae'r actores amryddawn o Lambed wedi cael clywed y bydd hi'n cael y r么l yn llawn amser. Bu Gill yn trafod y sioe gerdd 'Billy Elliott: the Musical' ar Raglen Dylan Jones ar 大象传媒 Radio Cymru:
Oedd yn rhaid meddwl ddwywaith pan ddaeth y cynnig?
Wi'n lwcus iawn achos bues i'n alternate Grandma am bron i 4 blynedd. O'dd y cytundeb cynta' mond am bum mis, ac o'n i'n meddwl 'na neis ca'l hwnna o dan y'm melt i.
Dyma fi, bedair blynedd yn hwyrach, fi dal 'ma! A ma' pobl yn dweud "Wel, so ti'n mynd yn bored de?"... Wel, na achos ma' gyment o bethau gwahanol yn digwydd ar y llwyfan 'na, ma' rhywun gwahanol ar y llwyfan bob nos, mae'n sioe fawr! Mae'n gynhyrfus. Mae'r lle'n llawn bob nos.
Byddwn ni'n dathlu 10 mlynedd eleni. Mae 10 miliwn o bobl wedi gweld y sioe ers 2005 a mae wedi ennill bwyti 80 o wobrwyon dros y byd i gyd, 10 Tony Award, 5 Olivia Award... gallen ni ddim fod mewn sioe well!
Sawl gwaith yr wythnos fyddi di ar y llwyfan?
O'n i'n perfformio wyth waith yr wythnos ta py'n ni, gyda matinee ddydd Iau a matinee ddydd Sadwrn a dwi dal i wneud hynny fel y 'Grandma', felly sdim newid fynna.
Mae'n hyfryd gweithio gydag actorion mor brofiadol a ma nhw 'di bod rownd yn 'neud gymaint o bethau eraill. Mae'n debyg iawn i fel ro'n i pan o'n i'n gweithio ar Pobol y Cwm, pan ddechreues i gyda Harriet Lewis oedd yn chwarae rhan Magi Post. Pan chi'n gweithio gyda pobl felna sydd wedi bod rownd yn neud pob math o bethau, wel, mae bownd o rwbo off arno chi.
Pa mor anodd yw hi i ymddangos fel hen ddynes ar lwyfan?
Wel dwi wrth fy modd i weud y gwir achos s'dim rhaid i mi wisgo colur o gwbwl, dim byd! Ma'r wig yn mynd mlaen a dyna ni. Dwi wedi bod yn gwneud rhannau fel hyn ers o'n i'n ugain oed. Fi ddim yn gwbod beth yw bwyti'r 'Grandmas' 'ma, ond dwi wrth fy modd actio nhw so sdim problem.
Beth yw patrwm y dydd?
Heddi nawr, fydda i ddim yn gadael y t欧 nes bwyti 4 o'r gloch achos ma' gyda fi notes gan y cyfarwyddwr - dwi dal i gael nodiadau! Ma nhw'n cadw llygad barcus arno chi reit lan i'r sioe, a ma'n rhaid cymryd y nodiadau 'ma achos chi'n gallu mynd yn st锚l.
Ma nhw'n gweud pethe fel "Can you pull back on that" a "S'dim ishe hwnna". Chi'n dodi steil bach eich hunan ar bethe...rhai pethe ma nhw'n lico ..."Oh keep that in!"... fel ma'i gydag unrhywbeth.
Fel arfer bydda i mewn tua 18:30 i wneud warm-up.
Beth sy'n gwneud y sioe mor boblogaidd?
Mae'r stori'n dda i ddechrau, ma lot o bobl sydd ddim yn mwynhau sioeau cerdd yn dod i weld y sioe 'ma a gweud bo nhw 'di joio fe achos bod stori 'na. Plentyn bach yn dilyn ei freuddwyd yw e really, ma'i mor syml 芒 'na, a pethe sy'n mynd yn ei erbyn e, bachgen bach sydd jyst moyn dawnsio.
Elton John sydd wedi ysgrifennu'r gerddoriaeth, a ma fe 'di gweud ei hun bod e'n gallu uniaethu 芒'r stori 'ma achos ma'r bachgen 'ma'n greadigol, eisiau dangos ei ddawn ac yn cael ei godi mewn lle lle mae'r dynion yn mynd lawr i'r pits 'ma a ddim yn deall y busnes dawnsio 'ma, ond wedyn yn gweld bod talent 'na.
Mae'n stori gall lot o bobl uniaethu gydag e. Mae'r bachgen bach 'ma fel fi, fi 'di dilyn fy mreuddwyd, fi ffili credu bo' fi mewn sioe gerdd yn Llundain, mae wedi bod yn freuddwyd i mi ers o'n i'n fach. Felly, o'r ifanc i'r hen, mae pawb yn gallu uniaethu 芒'r stori, mae'n sioe i'r teulu.
A sut mae'r acen Geordie'n dod ymlaen?
O, fi'n credu mod i 'di creu argraff eithaf da. Ma e eithaf agos i'r acen Gymraeg i fod yn onest. Mae'n acen bach pert. Fi'n joio'r Geordie, ma nhw'n debyg iawn i'r Cymry.
Faint o gytundeb ydy hwn?
Ma nhw 'di gofyn i fi aros mlan tan 2016, felly ma rhaid bo fi'n 'neud rhwbeth yn iawn! 'Wi 'di cwrdd 芒 shwd gymaint o bobl, a un peth arall 'wi'n lico bwyti'r sioe 'ma, fi 'di gweld lot o hen ffrindiau dros y blynydde, a fi'n cwrdd 芒 llawer ohonyn nhw ar 么l y sioe.