Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pier Bangor: 'Cyngor y Ddinas ddim yn gwneud digon'
Mae aelodau gr诺p gwleidyddol newydd sydd wedi ei sefydlu ym Mangor yn bwriadu bod yn bresennol mewn cyfarfod o gyngor y ddinas nos Lun nesaf pan fydd y cynghorwyr yn trafod dyfodol y pier.
Mae aelodau mudiad sy'n galw eu hunain yn "Dewis y Bobol", ynghyd ag aelodau "Gr诺p Cefnogi'r Pier", yn honni nad yw'r cyngor yn gwneud digon i hyrwyddo'r pier a threfnu gweithgareddau yno.
Maen nhw'n honni hefyd nad yw'r cyngor yn fodlon gwrando ar farn y cyhoedd a bod y cynghorwyr yn mynnu trafod materion yn ymwneud 芒'r safle'r tu 么l i ddrysau caeedig.
Mae un cynghorydd wedi ymateb drwy ddweud bod y cyngor yn agored i wrando ar farn y bobl, ond bod 'na rai agweddau o unrhyw fater sy'n gorfod bod yn gyfrinachol.
'Dangos mwy o barch'
Cafodd Pier Bangor ei adeiladu yn 1896, gan gostio 拢17,000, ond erbyn hyn mae angen cryn waith adnewyddu ar yr adeilad, gwaith fyddai'n costio cannoedd o filoedd o bunnoedd.
Mae gr诺p wedi'i sefydlu, Gr诺p Cefnogi'r Pier, er mwyn ymgyrchu o blaid y strwythur a cheisio sicrhau ei ddyfodol.
Dywedodd Eirian Roberts, o'r gr诺p, ei bod hi am weld "mwy o ddefnydd o'r pier", gan sicrhau ei fod yn cael "ei edrych ar ei 么l a'i barchu".
Ychwanegodd ei bod am weld "y cyngor lleol yn dangos mwy o barch i'r pier", gan honni nad ydi o'n "cael dim ar hyn o bryd."
Dywedodd nad oedd unrhyw arwyddion i ddenu pobl i ymweld 芒'r pier, ac nad oes unrhyw beth "i roi hwb i'r lle", gan ychwanegu bod "angen newid neu golli fo wnewn ni am byth."
'Agweddau cyfrinachol'
Mae gr诺p arall wedi'i sefydlu ym Mangor, Dewis y Bobol, er mwyn ceisio annog trigolion i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Dywedodd Stephanie Williams, o'r gr诺p, eu bod nhw eisiau i bobl agor eu llygaid a gweld "y gallan nhw fod yn involved a gweld pethau'n newid".
Un o'r pethau sy'n poeni'r gr诺p yw bod penderfyniadau yn cael eu gwneud y tu 么l i ddrysau caeedig, gan gynnwys trafodaethau am ddyfodol y pier.
Ychwanegodd: "Mae cyfarfodydd y cyngor yn agored i'r cyhoedd, ond pan maen nhw'n siarad am y pier, maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd adael."
Mae'r cynghorydd John Wynn Jones, o Gyngor Dinas Bangor, wedi ymateb drwy ddweud: "Rydan ni'n ceisio'n gorau i fod yn gynhwysol, ond mae 'na agweddau o unrhyw fater sy'n gorfod bod yn gyfrinachol.
"Ond rydan ni'n ddigon agored i gael barn y bobl."