Pride: Ffilm am streic y glowyr yn ennill Bafta

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffilm yn portreadu cyfuniad rhwng ymgyrchwyr hawliau pobl hoyw a gweithwyr y pyllau glo

Mae drama am streic y glowyr, Pride, wedi ennill gwobr ffilm gyntaf orau gan ysgrifennwr, gyfarwyddwr neu gynhyrchydd o Brydain yng Ngwobrau Ffilm Bafta.

Mae'r ffilm, sydd wedi ei osod yn Nyffryn Dulas yn ne Cymru, yn portreadu cyfuniad rhwng ymgyrchwyr hawliau pobl hoyw a gweithwyr y pyllau glo yn 1984.

Derbyniodd yr ysgrifennwr Stephen Beresford a'r cynhyrchydd David Livingston y wobr yn y seremoni yn Llundain nos Sul.

Dywedodd Beresford ei bod wedi cymryd 20 mlynedd iddo berswadio unrhyw un y byddai'r hanes yn gwneud synnwyr fel ffilm gomedi.

Un o gymeriadau canolog y ffilm oedd Sian James sydd bellach yn Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe. Mae hi wedi siarad am ei hatgofion o'r cyfnod a'i hargraffiadau o'r ffilm.