Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gohirio penderfyniad ar gynllun tai
Mae cynghorwyr Caerfyrddin wedi gohirio gwneud penderfyniad ar gais dadleuol i godi 250 o dai yno.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder am effaith y datblygiad ar lif traffig.
Mae cwmni datblygu o Suffolk wedi cyflwyno cais amlinellol i Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y datblygiad.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin wedi cyflwyno nifer o wrthwynebiadau i'r cais - yn eu plith amheuon yngl欧n 芒 phwy fydd yn talu am ffordd gyswllt newydd i'r datblygiad o'r A40.
Mae'r heol newydd i fod i gysylltu'r ffordd ddeuol a nifer o ddatblygiadau tai yng ngorllewin tref Caerfyrddin, ynghyd 芒 phencadlys S4C.
Fe fydd y ffordd newydd yn costio dros 拢5 miliwn i'w hadeiladu, ond nid oes manylion llawn eto yngl欧n 芒 sut y bydd gwaith yn cael ei ariannu.
1000 o dai newydd
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths sy'n aelod o Gyngor Tref Caerfyrddin wrth 大象传媒 Cymru Fyw: "Mae'r datblygiad yma ar ben heol y Coleg ac i ni'n gwybod am yr holl drafnidiaeth - mae hi'n medru bod yn anobeithiol i deithio o gwmpas yr ardal.
"Y gofid mawr os oes adeiladu 250 yn rhagor o dai - a'r rheini yn dod allan i Heol y Coleg - mae yna ofid mawr am drafnidiaeth."
Mae ardal gorllewin Caerfyrddin wedi ei chlustnodi ar gyfer dros 1000 o dai newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Yn 么l asesiad cynllunio'r Cyngor Sir, fe fydd na ddim mwy na 100 o dai yn cael eu codi tan 2018, ac fe fydd ffyrdd presennol Caerfyrddin yn medru ymdopi gyda'r traffig ychwanegol. Mae disgwyl i'r datblygwyr - Carmarthen Promotions Limited - wneud cyfraniad ariannol i'r ffordd gyswllt newydd.