Streic y glowyr: Aduniad gydag ymgyrchwyr hawliau hoyw

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffilm yn portreadu cyfuniad rhwng ymgyrchwyr hawliau pobl hoyw a gweithwyr y pyllau glo

Bydd mudiad sy'n cefnogi glowyr yn aduno gydag ymgyrchwyr hawliau pobl hoyw a ffurfiodd gynghrair yn ystod streic y glowyr yn 1984-1985.

Bydd Gr诺p Cefnogi Glowyr Nedd, Dulais a Chwm Tawe yn cynnal aduniad gyda Gr诺p Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr.

Eu gweithgareddau a ysbrydolodd ffilm 'Pride' y llynedd.

Mae'r aduniad, yn Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn, Cwm Dulais ar 14 Mawrth, yn nodi 30 mlynedd ers i'r anghydfod ddod i ben.

Un o gymeriadau canolog y ffilm oedd Sian James sydd bellach yn Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe. Mae hi wedi siarad am ei hatgofion o'r cyfnod a'i hargraffiadau o'r ffilm.

Dywedodd am yr aduniad: "Bydd y noson yn gyfle i ddwyn ynghyd y rhai a wnaeth ein cefnogi yn ystod y streic yn 1984/1985 ac yn dathlu undod a chyflawniadau'r gr诺p cymorth yn ystod y cyfnod hwn o'n hanes lleol," meddai.