Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
£50m i atal camddefnydd o gyffuriau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sut y bydd £50 miliwn yn cael ei fuddsoddi i fynd i'r afael â chamddefnydd o gyffuriau ac alcohol.
Bydd mwy na £22 miliwn yn cael ei wario ar y blaenoriaethau sydd wedi eu nodi yn 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal bydd mwy na £5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf i wella mynediad at driniaeth ac ansawdd y cyfleusterau ledled Cymru drwy greu canolfannau aml-asiantaeth, triniaethau preswyl a chymunedol a chanolfannau dadwenwyno.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn cynyddu nifer y cynlluniau gofal rhanedig gan feddygon teulu, cyfleusterau ieuenctid, gwasanaethau allgymorth symudol a chanolfannau dydd.
Mae'r arian gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys buddsoddiad sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau i helpu plant a phobl ifanc, ynghyd ag ailsefydlu cleifion mewn cyfleusterau preswyl, dadwenwyno cleifion yn yr ysbyty a gwasanaethau cwnsela.
£2 biliwn y flwyddyn
Mae amcangyfrifon yn dangos bod y defnydd o alcohol a chyffuriau dosbarth A yn costio hyd at £2 biliwn y flwyddyn i Gymru.
Mae camddefnyddio sylweddau yng Nghymru wedi arwain at:
•467 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn (ffigwr 2013);
•135 o farwolaethau yn gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yn 2013;
•34,000 o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd alcohol yn 2012;
•Heddluoedd Cymru yn cofnodi 11,766 o droseddau yn ymwneud â chyffuriau yn 2013-14.
'Ymrwymiad clir'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: " Rydyn ni'n benderfynol o fynd i'r afael â'r broblem hon.
"Mae'r ffaith ein bod am fuddsoddi £50m mewn rhaglenni i fynd i'r afael â'r camddefnydd o gyffuriau ac alcohol dros y flwyddyn nesaf yn dangos ein hymrwymiad clir i leihau'r niwed y mae camddefnyddio sylweddau yn ei achosi."