Rhybudd am beryglon canser y croen

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae arbenigwyr yn cynghori pobl i ddefnyddio eli haul ffactor 15, o leiaf

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod 130 o bobl yn marw o ganser y croen yng Nghymru bob blwyddyn.

Daw'r ffigyrau wrth i Ymchwil Canser Prydain ddatgelu bod oddeutu 730 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o felanoma malaen bob blwyddyn.

Dyma'r ail ganser mwyaf cyffredin ymhlith pobl rhwng 15 a 34 oed.

Mae pobl dros 65 oed tua saith gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu'r clefyd o gymharu 芒 40 mlynedd yn 么l, yn 么l yr elusen.