Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor yn diddymu cyllid CCTV
Mae cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu tynnu'r cyllid o 拢104,000 i rwydwaith CCTV y sir.
Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd yr 87 o gamer芒u bellach yn cael eu monitro gan staff.
Bydd y camer芒u yn Rhydaman, Porth Tywyn, Caerfyrddin a Llanelli yn cael eu cadw, a bydd y lluniau ohonynt yn cael eu recordio, ond ni fydd staff y cyngor yn gwylio'r lluniau yn fyw a bydd pedwar aelod o staff yn cael eu diswyddo.
Fe ddaw'r penderfyniad yn dilyn un arall gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Christopher Salmon, i dynnu cyllid o 拢44,000 yn 么l yn Ionawr eleni.
Daeth adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Mr Salmon i'r casgliad nad oedd achos i gefnogi monitro CCTV cyhoeddus, ac mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd ar gael bod y camer芒u yn atal trosedd treisiol neu oedd yn ymwneud ag alcohol.
Dywedodd y cyngor bod gwasanaeth pryd ar glud yn fwy o flaenoriaeth na monitro camer芒u cylch cyfyng, ac y byddai'r arian sy'n cael ei arbed yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu dyfodol y gwasanaeth hwnnw.
Roedd y cyngor wedi cynnal ymgynghoriad er mwyn i'r cyhoedd gael dweud eu dweud yngl欧n 芒 dyfodol y camer芒u.
Mae Cyngor Caerfyrddin wedi dweud na fydden nhw'n cael gwared ar y camer芒u ac na fydden nhw'n cael eu diffodd, ond y byddai'n rhaid i'r heddlu fod yn gyfrifol am unrhyw waith monitro yn y dyfodol.