Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru, Armenia a Eurovision
Er nad yw Cymru'n cystadlu yn yr Eurovision, mi fydd 'na 'chydig o ddylanwad Cymreig ar y cystadlu yn Vienna!
Mae Mary-Jean O'Doherty yn Awstraliad ac yn cynrychioli Armenia yn y gystadleuaeth gerddorol. Ond mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn siarad Cymraeg. Mae hi'n dweud ei hanes wrth Cymru Fyw:
Opera
Cantores opera ydw i, a des i i Gymru yn 2008 i astudio gyda Dennis O'Neill yn Academi Llais Rhynwladol Caerdydd. Dwi'n briod 芒'r pianydd Caradog Williams.
Gan fy mod yn Armeniad ar ochr fy mam, fe'm gwahoddwyd i fod yn rhan o d卯m Armenia yng nghystadleuaeth Eurovision eleni, ac ar 么l treulio mis yn y wlad honno yn paratoi, dwi bellach yn Vienna, ar fin cwblhau profiad hollol unigryw a bythgofiadwy.
Roedd dod i Armenia fel dod adre. Mae hiraeth am y famwlad yn deimlad cyfarwydd i Armeniaid, ac fel yn y Gymraeg mae ganddynt air arbennig amdano, sef garrod.
Roedd ein taith cyntaf i Armenia am bythefnos ym mis Chwefror. Llefydd sanctaidd oedd y llefydd cyntaf i ni ymweld 芒 nhw yn y brifddinas Yerevan - Etchmiadzin, canolbwynt ysbrydol yr Eglwys Apostolaidd Armenaidd, ac eglwysi hynafol a phrydferth St. Gayane a St. Hripsime.
Buom ni'n ymweld ag amgueddfa Gomitas hefyd, a oedd yn bwysig iawn i mi. Gwelir Gomitas, a oedd yn gyfansoddwr a chasglwr alawon gwerin, fel prif ffigwr traddodiad cerddorol Armenia yn yr oes fodern.
Brwdfrydedd yn ysbrydoliaeth
Mae wedi bod yn wefr ac yn fraint enfawr i gyd-weithio ag aelodau eraill Genealogy - chwech o gantorion yn cynrychioli'r pum cyfandir yn ogystal ag Armenia ei hun. Cyfansoddodd Armen Martirosyan g芒n sydd yn rhoi cyfle i bob elfen cerddorol o fewn y gr诺p ddisgleirio - pop, roc, soul, gwerin Armenaidd a chanu clasurol.
Cawsom amser gwych yn Yerevan yn ymarfer ac yn ymweld 芒'r prif atyniadau, a buom i sawl sefydliad academaidd yn cwrdd ag Armeniaid ifanc, lle bu eu hegni a'u brwdfrydedd yn ysbrydoliaeth mawr i ni.
'Breuddwyd'
Profiad arbennig arall oedd ail-gwrdd 芒'm hathrawes canu o Sydney, sef soprano operatig Armenaidd enwog o'r enw Arax Mansourian, a'i chlywed yn rhoi datganiad.
Roedd yn freuddwyd iddi hithau hefyd y byddwn un dydd yn dod i Armenia i ddysgu am fy nhreftadaeth.
Mae pobl Armenia wedi bod yn tu hwnt o groesawgar o'r diwrnod cyntaf.
Dwi'n teimlo'n falch ofnadwy o gael cynrychioli gwlad fy nghyndeidiau, yn enwedig eleni gan fod 2015 yn Flwyddyn y Diaspora sef y gwasgariad byd-eang o Armeniaid - mae cynrychioli'r wlad yng nghystadleuaeth Eurovision yn gwireddu breuddwyd i mi.
Mae geiriau Inna Mkritchyan i'r g芒n 'Face the Shadow' yn dathlu them芒u oesol heddwch, cariad a chymod.
Dwi'n credu'n gryf yn neges y g芒n ac yn mawr obeithio wnaethoch chi wylio yn y rownd gynderfynol ar nos Fawrth 19 Mai (ar 大象传媒 Three), ac y byddwch yn pleidleisio drosom yn y rownd derfynol ar 23 Mai!