Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
BGT: C么r Glanaethwy yn y rownd derfynol
Mae C么r Glanaethwy wedi cyrraedd rownd derfynol Britain's Got Talent.
Y c么r gyda 162 o aelodau wnaeth ennill y bleidlais gyhoeddus yn dilyn rownd gynderfynol nos Lun.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal y penwythnos nesaf.
Yn ymuno 芒 nhw yn y rownd derfynol fydd Entity Allstars, wnaeth ennill pleidlais y beirniaid.
Ar 么l clywed canlyniad y bleidlais dywedodd Cefin Roberts un o gyd-gyfarwyddwyr y c么r: "Mae'n deimlad ffantastig. Mae'n beth gwych i fod yma, ond mae cyrraedd y rownd derfynol, mae hynny mor gyffrous."
Cafodd y perfformiad ganmoliaeth unfrydol gan y beirniaid.
'Llawn balchder'
Mewn erthygl ddiweddar i 大象传媒 Cymru Fyw, fe siaradodd Cefin Roberts am rinweddau cystadlu - ac mae'n amlwg fod yr holl gystadlu wedi talu ar ei ganfed i'r c么r.
Dywedodd Simon Cowell: "Roedd y perfformiad yn un pwerus a llawn emosiwn, roedd trefniant y lleisiau yn anhygoel, ac fe ddylai Cymru heno fod yn llawn balchder."
Roedd yna glod hefyd gan David Walliams: "Roedd yna ddagrau yn fy llygaid - doedd gennyf ddim syniad am be oedd y g芒n, ond roedd yr holl berfformiad mor deimladwy."
Ar 么l cystadlu ar y rhaglen bu'n rhaid i rai o aelodau ieuengaf y c么r adael yn syth er mwyn teithio i Eisteddfod yr Urdd, Caerffili.
Bu'n rhaid i tuag wyth o ddisgyblion Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn, adael er mwyn cystadlu yn yr Urdd fore Mawrth.
Fe wnaeth rai ohonyn nhw gyrraedd eu gwesty yng Nghaerffili ychydig cyn 02:00 ac roedd yn rhaid deffro am 05.45 er mwyn cyrraedd y maes erbyn 07:00.
Cymry eraill yn cystadlu
Mae 'na Gymraes o'r de hefyd wedi cyrraedd un o'r rowndiau cyn-derfynol eraill fydd yn cael eu cynnal weddill yr wythnos.
Fe blesiodd Maia Gough o Sgiwen y beirniaid pan ganodd y ferch ifanc g芒n gan Whitney Houston yn y rownd gyntaf.
Roedd 'na ddathlu ym Mhontarddulais hefyd, wrth i'r gr诺p Honeybuns ymuno 芒'r Cymry yn y rownd gynderfynol.
O Bort Talbot y daw Groove Thing - criw o 12 o ddawnswyr fydd hefyd yn cystadlu i gyrraedd y rownd derfynol.