Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Astudiaeth: Ailagor rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin?
Mae AC Ceredigion Plaid Cymru, Elin Jones, wedi dweud bod y Gweinidog Trafnidiaeth wedi anfon llythyr ati, yn cytuno i roi hyd at 拢30,000 ar gyfer astudiaeth i asesu a ddylid ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Gallai ailadeiladu ac ailagor y lein gostio 拢600m.
Pwrpas yr astudiaeth yw datblygu maes ymchwil, cost a'r gwaith sydd ei angen ar gyfer achos busnes.
Mae'r gweinidog Edwina Hart wedi gofyn i'w swyddogion gydweithio gyda Trawslink Cymru sy'n ymgyrchu o blaid ailagor.
'Newyddion gwych'
Bydd ymgynghorwyr trafnidiaeth annibynnol yn adrodd yn 么l yn yr hydref.
Dywedodd Ms Jones: "Am y tro cyntaf mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi arweiniad ac adnoddau i astudiaeth ar ddichonoldeb ailagor y lein rheilffordd rhwng Aberystwyth, Tregaron, Llambed a Chaerfyrddin.
"Mae'n newyddion gwych fod y gweinidog yn comisiynu'r adroddiad, ac yn adlewyrchiad o lwyddiant ymgyrch mudiad Trawslink.
"Wrth gwrs, mae tipyn o ffordd i fynd yn yr ymgyrch ond mae'n arwyddocaol iawn fod y gweinidog wedi cael ei pherswadio fod hwn yn syniad y dylid ei ddatblygu ymhellach."