Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwleidyddion yn trafod cytundeb teledu y Chwe Gwlad
Mae Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i alw am ddiogelu cytundeb teledu pencampwriaeth rygbi'r Chwe Gwlad.
Ken Skates AC sy' wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale AS, i bwyso arno i sicrhau fod y bencampwriaeth yn parhau ar deledu daearol.
Mae'r cytundeb presennol gyda'r 大象传媒 yn para tan ddiwedd y gystadleuaeth yn 2017.
Dywedodd Mr Skates y gallai dyfodol rygbi gael ei niweidio petai llai o bobl ifanc yn gwylio gemau ar deledu oherwydd bod rhaid talu.
"Byddwch yn lleihau nifer y bobl sy'n gwylio'r digwyddiad dros nos, yn enwedig pobl ifanc sy'n cael eu hysbrydoli gan wylio'r gamp," meddai.
"Gallai elw ariannol tymor byr achosi niwed yn y tymor hir ar gyfer clybiau rygbi ledled Cymru allai olygu llai o aelodau."
Rhybuddiodd y gallai fod yn "beryglus ac yn niweidiol iawn" pe bai darllediadau rygbi'r Chwe Gwlad yn cael eu colli i sianeli lloeren.
Ystyried opsiynau
Ym mis Ionawr fe ddywedodd Prif Weithredwr y Chwe Gwlad John Feehan wrth y Daily Telegraph ei fod yn barod i ystyried yr holl opsiynau ar gyfer darlledu'r bencampwriaeth, a hynny gyda BT Sport a Sky Sports yn cystadlu'n frwd yn y farchnad deledu lloeren.
Roedd adroddiadau y gallai'r cytundeb teledu nesaf fod yn werth 拢50m y tymor, cynnydd o 25% ar y cytundeb pedair blynedd bresennol.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r 大象传媒 wedi colli hawliau darlledu ar gyfer nifer o ddigwyddiadau chwaraeon.
O 2017 ymlaen fe fydd darllediad byw o bencampwriaeth y Golff Agored yn cael ei ddangos gan Sky yn unig, tra bod y 大象传媒 wedi rhannu'r darllediadau rasio Fformiwla 1 gyda Sky ers 2012.
Mae Sky a BT Sport yn darlledu'r holl gemau rygbi mawr eraill, gan gynnwys y Pro 12, teithiau'r Llewod a Chwpan Pencampwyr Ewrop.
Arbedion y 大象传媒
Yn y cyfamser, mae'r 大象传媒 wedi bod drwy gyfnod o arbedion sy'n ei gwneud yn annhebygol y gallen nhw gynnig symiau fydai'n cyfateb i rai darlledwyr lloeren ar gyfer y Chwe Gwlad.
Dywedodd llefarydd ar ran y 大象传媒: "Nid oes gennym unrhyw sylwadau i'w gwneud ar hyn o bryd, nid yw'r 大象传媒 yn darparu sylwebaeth ar drafodaethau masnachol sensitif yngl欧n 芒 hawliau cysylltiedig."
Ni fydd swyddogion y bencampwriaeth yn gwneud unrhyw sylwadau.