Chwe Gwlad: 大象传媒 ac ITV yn ennill hawliau darlledu

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Mi fydd y cytundeb newydd yn para am chwe blynedd

Mae'r 大象传媒 ac ITV wedi ennill yr hawl i ddarlledu gemau rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o 2016 ymlaen - ddwy flynedd ynghynt na'r disgwyl.

Fe gafodd y cytundeb newydd ei gyhoeddi ar y cyd rhwng y darlledwyr a phenaethiaid y Chwe Gwlad brynhawn Iau.

Fe fydd holl gemau cartref Cymru yn cael eu darlledu gan y 大象传媒, a'r gemau oddi cartref ar ITV.

Yn ystod cyfnod y cytundeb, bydd 70% o gemau Cymru yn cael eu darlledu gan y 大象传媒.

Mewn datganiad bnawn Iau fe ddywedodd 大象传媒 Cymru fod hyn yn golygu y bydd 70% o gemau Cymru yn parhau i gael eu darlledu ar S4C.

Mae'r 大象传媒 wedi sicrhau'r hawl i ddarlledu gemau cartref Yr Alban a Ffrainc.

Mae'n debyg fod y cynnig yn werth 拢50m y flwyddyn i'r g锚m - tua 拢10m yn fwy na chytundeb blaenorol y 大象传媒.

Rhan o'r cytundeb yw sylwebaeth ar Radio Cymru a Radio Wales.

Gemau Cymru

大象传媒

Holl gemau cartref Cymru

Ffrainc v Cymru

Yr Alban v Cymru

ITV

Lloegr v Cymru

Iwerddon v Cymru

Yr Eidal v Cymru

Dechrau yn 2016

Fe fydd y cytundeb chwe blynedd o hyd yn dechrau yn 2016 ac yn para tan 2021, gan ddod 芒 chytundeb presennol y 大象传媒 芒'r Bencampwriaeth i ben.

Roedd disgwyl i'r cytundeb hwnnw bara tan 2018, ond fe benderfynodd y gorfforaeth ddod ag o i ben yn gynnar yn rhan o'r trafodaethau gydag ITV a'r trefnwyr.

Er bod diddordeb gan Sky Sports, y cynnig ar-y-cyd blesiodd drefnwyr y bencampwriaeth.

Bydd y 大象传媒 yn dangos gemau cartref Yr Alban, Cymru a Ffrainc, ac ITV yn dangos gemau cartref Lloegr, Iwerddon a'r Eidal.

Dadansoddiad Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 大象传媒 Cymru, Huw Thomas

Roedd nifer yn ofni colli'r Chwe Gwlad i Sky pan ddatgelodd trefnwyr y Bencampwriaeth fis Ionawr y bydden nhw'n ystyried symud y gystadleuaeth.

Er fod Sky a BT Sport wedi ennill nifer o hawliau darlledu rygbi yn ddiweddar, fe roedd ymgyrchu brwd gan gefnogwyr i gadw'r Chwe Gwlad ar orsafoedd y gellid eu gwylio yn rhad ac am ddim.

Mae'n debyg y bydd y cytundeb hwn yn bodloni gwleidyddion ac ymgyrchwyr, ac yn lleihau ymrwymiad ariannol y 大象传媒.

Dw i'n clywed bod arwyddoc芒d diwylliannol y gem i gynulleidfaoedd Cymraeg wedi helpu i sicrhau nifer o gemau Cymru i'r 大象传媒, wrth i ITV fodloni cynulleidfaoedd a hysbysebwyr gan ganolbwyntio ar gemau Lloegr yn Twickenham.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru: "Mae gan Bencampwriaeth y 6 Gwlad le unigryw yng nghalonnau cefnogwyr rygbi Cymru ac rydym wrth ein boddau y bydd y 大象传媒 yn parhau i gynnig darllediadau heb eu hail o gemau Cymru am chwe blynedd arall.

"Drwy weithio'n agos gydag ITV ar y cytundeb hwn dros nifer o fisoedd - a chyfuno ein buddsoddiad - rydym wedi rhoi ein cynulleidfaoedd yn gyntaf ac wedi sicrhau'r fargen orau i Gymru, i rygbi Cymru ac i wylwyr. Mae pawb ar eu hennill.

"Mae gemau rygbi rhyngwladol Cymru wastad wedi bod yn llawer mwy nag achlysuron chwaraeon mawr - maent yn gyfle i'r genedl ddod at ei gilydd i ddathlu hunaniaeth, treftadaeth a balchder.

"Felly, rwyf wrth fy modd y bydd yr eiliadau arbennig yma yn aros ar y 大象传媒, gan roi'r sedd orau yn y t欧 i bawb."

'Yn falch iawn'

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae'n newyddion da i'r gynulleidfa yng Nghymru y bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn parhau i gael ei darlledu ar deledu sydd ar gael i'w wylio am ddim, ac yn y Gymraeg ar S4C.

"Ry'n ni'n falch iawn o fedru parhau i gydweithio gyda 大象传媒 Cymru a'u t卯m gwych sy'n cynhyrchu rhaglenni rygbi i S4C.

"Yn S4C, mae bob amser diddordeb gennym i chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol i ddod a chwaraeon o'r safon uchaf i'n cynulleidfa, a dwi wrth fy modd ein bod yn rhan o'r cynllun yma sy'n sicrhau y bydd rygbi Chwe Gwlad ar gael i bawb dros y blynyddoedd sydd i ddod."

Dywedodd Niall Sloane, Cyfarwyddwr Chwaraeon ITV: "Wrth i ITV baratoi i ddod 芒 gemau Cwpan Rygbi'r Byd yn ecsgliwsif, yn rhad ac am ddim i'n gwylwyr yn ddiweddarach eleni, rydym yn falch iawn o fod yn cryfhau ein cysylltiadau gyda'r g锚m gan ddod 芒 gemau byw o'r radd flaenaf ac awyrgylch unigryw y 6 Gwlad RBS o'r flwyddyn nesaf ymlaen."

'Cynnig y gorau'

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu darparu d锚l sy'n cynnig y gorau i rygbi yng Nghymru. Mae'r dd锚l yn gwarantu y bydd y gemau ar gael ar y sianelau rhad ac am ddim am y chwe mlynedd nesaf, tra bo termau ariannol y cytundeb yn darparu cynnydd sylweddol, o fudd mawr i'r g锚m yng Nghymru.

"Mae gennym eisoes berthynas dda gyda'r 大象传媒 ac ITV sy'n rhoi hyder i ni y bydd y gystadleuaeth yn parhau i hawlio'r sylw haeddianol.

"Roeddem yn benderfynol o sicrhau cytundeb ariannol teg, ond roedd yr angen am gadw'r gemau ar y sianelau rhad ac am ddim hefyd yn ysgogiad cryf. Mae hyn yn newyddion da i'n cefnogwyr a dwi'n gwybod y bydd y cytundeb wrth fodd ein rhanddeiliaid allweddol".