Tips carafanio Angharad Mair
- Cyhoeddwyd
Mae Angharad Mair a'i theulu yn ymweld 芒 maes carafanau'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Mewn erthygl arbennig i Cymru Fyw, mae Angharad yn cynnig ambell i dip i garafanwyr hen a newydd!
1. Mae cael g诺r yn handi. Os yw hi'n wir mai merched yn bennaf sy'n gyfrifol am lanhau'r t欧 bach yn y cartre', jobyn y g诺r heb os yw cerdded ar hyd faes carafanau'r 'Steddfod yn llusgo'r bocs a'i gynnwys.
2. Yn anffodus eleni mae gen i 诺r sy'n gweithio yn rhywle arall, felly tip rhif dau yw gwneud yn si诺r bod ganddo' chi ffrind yn agos, fel fy ffrind i yn y garafan drws nesa, sy'n mynnu bod mynd 芒'ch t欧 bach eich hun yn brofiad o dyfiant personol mewn bywyd.
3. Ffansi pnawn yn y bar gwyrdd i gael yr aduniad blynyddol gyda ffrindiau? Bachwch un o blant h欧n y maes carafannau i warchod eich plant bach chi. Rhowch arian am fwyd a hufen ia a thalwch yn deilwng fel bod y plentyn h欧n yn gofyn am waith gwarchod bob dydd.
4. Os oes ganddoch chi blant h欧n eich hun, peidiwch a rhoi unrhyw geiniog o arian poced iddyn nhw nes bod twba d诺r y garafan (a'r un sb芒r) yn llawn. Dwi am drio hyn fy hun eleni.
5. Peidiwch poeni am fwyd i'r garafan, does neb yn coginio ar faes Steddfod heblaw tipyn o gig moch ac o bosib sosej neu ddwy yn y bore. Gall bwyta'n iach aros tan yr wythnos nesa'.
6. Ar y llaw arall, mae ambell i fyrbryd bach yn handi iawn fel bwyd cymdeithasol wrth fwynhau glasied bach cymdeithasol o prosecco oer. Pan fo'r plant yn cysgu. Neu ym Maes B.
7. Sortiwch allan yn gynnar yn yr wythnos pwy sy'n gyfrifol am wneud yn si诺r bod y plant yn cyrraedd 'n么l yn saff o Maes B. 'Dych chi ddim eisiau bod ar shifft hwyr bob nos. Mae hyn yn gyfle gwych i ehangu gr诺p ffrindiau gyda rhieni rhai o'r bobl ifanc dieithr fydd yn gorweddian yn eich adlen chi trwy gydol y prynhawn. (Mwy o reswm i beidio cael bwyd yn y garafan...!). Ond cyfrwch y poteli prosecco.
8. Byddwch yn agored i wahodd ffrindiau sy'n ffrindiau i ffrindiau i'r adlen/garafan yn hwyr y nos oherwydd dyna sy'n gwneud 'Steddfod dda ar faes carafanau. Os ewch chi i garafan ffrind i ffrind ewch 芒 photel o win. Ffrindiau am oes!
9. Peidiwch 芒 chwyno am s诺n y rhai sy'n rhy ifanc i Maes B ond sy'n rhy hen i fynd i'r gwely. Maen nhw'n gwneud jobyn reit dda o warchod carafanau wrth ymlwybro'n swnllyd yn nhywyllwch y nos o un rhes i'r llall.
10. Ac yn olaf, carafanio ar faes y Steddfod yw'r peth agosa' gewch chi fel oedolyn i ddeall ap锚l hyfryd sleepovers. Dyma wythnos gyfan sy'n un sleepover mawr a chyn pen dim fe fyddwch chi hefyd yn eich pyjamas (gorau) yn coginio bacwn ar y barbeciw bob bore.
Os mai pabell yn hytrach na charafan sydd gennych, a bod Maes B yn apelio mwy, beth am ddarllen cyngor Branwen Llewellyn - sy'n hen law ar wersylla mewn g诺yl? Mae 'Brenhines Maes B' wedi llunio rhestr arbennig i Cymru Fyw o'r pethau i'w gwneud ac i'w hosgoi er mwyn edrych yn 么sym wrth aros mewn pabell...Mwynhewch!
Cyhoeddwyd y darn hwn yn wreiddiol ar 大象传媒 Cymru Fyw adeg Eisteddfod Genedlaethol 2015.