Gwerthu Cymru i'r byd

Ffynhonnell y llun, Gwyl fwyd y Fenni

Disgrifiad o'r llun, Mae gwyliau bwyd yn boblogaidd yng Nghymru ond oes na ddigon o gyfleon i bobl dramor gael blasu ein cynnyrch?

Mae gan Gymru enw da yn rhyngwladol mewn sawl maes gan gynnwys y celfyddydau a chwaraeon. Ond i ba raddau mae'n bwydydd a diodydd yn cael eu gwerthfawrogi ar hyd a lled y byd?

Mae Robert Bowen yn Ddarlithydd Rheoli Busnes a Mentergarwch Wledig dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu'n rhannu ei syniadau gyda Cymru Fyw am y ffordd ymlaen i ddatblygu brandiau Cymreig dramor:

Gin, madarch a'r cig oen Cymreig

Ar 么l haf prysur o wyliau bwyd, mae'n amlwg bod y diwydiant bwyd Cymreig yn ffynnu. Y peth mwyaf pleserus yw gweld menter a syniadau arloesol mewn cwmn茂au bychain (yn aml yn gwmn茂au teuluol gyda llai na 10 o weithwyr), gyda chynnyrch fel gin wedi ei wneud o wymon organig, blodau bwytadwy a chafiar madarch.

Mae gwerthfawrogiad am gynnyrch Cymreig hefyd i'w weld dramor, wrth i allforion bwyd Cymreig gynyddu'n sylweddol.

Mae cig oen Cymreig yn gymharol enwog ar draws y byd, ond mae chwaraewyr newydd allweddol yn cynnwys d诺r ffynnon, bwyd m么r a chwrw.

Disgrifiad o'r llun, Mae Halen M么n yn un o'r brandiau Cymreig sy'n ennill ei blwy' dramor

Marchnad fyd-eang

Er gwaethaf eu maint bach a'r diffyg adnoddau, mae rhai busnesau bach a chanolig o Gymru yn dechrau sylweddoli eu bod nhw'n gallu dod yn chwaraewyr fyd-eang.

Ar yr un pryd, mae diffyg gweledigaeth ac uchelgais i ddilyn cyfleoedd rhyngwladol yn dal rhai cwmn茂au yn 么l oherwydd y risgiau canfyddedig o weithredu mewn marchnadoedd anhysbys.

Mae Llywodraeth Cymru yn egn茂ol yn annog busnesau bwyd i fynd i ffeiriau masnach rhyngwladol fel rhan o'r strategaeth i agor cyfleoedd ar gyfer twf rhyngwladol, ond mae angen gwneud mwy i godi proffil Cymru fel gwlad cynhyrchu bwyd.

Mae Cymru wedi bod braidd yn araf o'i gymharu 芒 rhanbarthau a gwledydd eraill i ddatblygu hunaniaeth gref yn y diwydiant bwyd rhyngwladol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Robert Bowen yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gallai hynny fod oherwydd diffyg ymwybyddiaeth am Gymru yn fwy cyffredinol ar draws y byd. Mae'n debyg y gallai pobl tramor enwi Gareth Bale fel Cymro, ond tybed a allen nhw enwi cwmni neu gynnyrch Cymreig?

Mae gwledydd fel yr Alban wedi elwa o gael un cynnyrch rhagorol, fel wisgi, sy'n werth tua 拢4bn mewn allforion. Cynnyrch mwyaf adnabyddus Cymru yw cig oen Cymreig, ond mae anawsterau yn y diwydiant cig dros y degawdau diwethaf wedi llesteirio gwerthiant rhyngwladol, yn enwedig sgandalau BSE a Chlefyd Traed a'r Genau, a arweiniodd at wahardd allforion cig Prydeinig am gyfnod.

Peth hanfodol ar gyfer twf y diwydiant bwyd a diod Cymreig yw sefydlu brand byd-eang cryf. Mae yna groeso mawr i gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Prydain am gynlluniau i gynyddu'r nifer o enwau bwyd gwarchodedig (o'r 63 presennol i 200) ac mae hynny'n ffordd anhepgor o wella enw da am ansawdd cynhyrchion bwyd.

Llydaw'n arwain y ffordd

Ar hyn o bryd dim ond pedwar o fwydydd Cymreig sydd wedi derbyn statws gwarchodedig, gyda cheisiadau wedi eu gosod am naw bwyd arall. Mewn cymhariaeth, mae 47 o enwau bwyd wedi eu gwarchod yn Llydaw, un o brif ranbarthau cynhyrchu bwyd Ewrop.

Mantais nodedig arall sydd gan Lydaw yw'r defnydd o eiconograffeg ar ei chynhyrchion. Mae'r rhan fwyaf o'i chynhyrchion yn cario logo Produit en Bretagne ('Gwnaed yn Llydaw').

Disgrifiad o'r llun, Mae'r label 'Produit en Bretagne' wedi gwneud byd o wahaniaeth i broffil bwydydd sy'n cael eu cynhyrchu yn Llydaw

Gydag enw da am ansawdd, gwelir y defnydd o eiconograffiaeth fel ffordd gadarnhaol o farchnata cynhyrchion Llydaw. Wrth i enw da Cymru dyfu ledled y byd, gallai defnyddio logo 'Gwnaed yng Nghymru' heb os fod yn fanteisiol ar gyfer cynnyrch Cymreig.

Mae defnyddio hunaniaeth ddiwylliannol i wahaniaethu cynnyrch bwyd, yn enwedig pan maen nhw yn tarddu o ranbarth gydag enw da am ansawdd, yn gallu bod yn ffordd o greu mantais gystadleuol.

Mae'n braf gweld cynifer o gynhyrchion bwyd Cymreig yn defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu brandio, rhywbeth roedd adroddiad 2014 Comisiynydd y Gymraeg wedi darganfod fel mantais i nifer o gwmn茂au yn y diwydiant bwyd.

Rhaid dweud bod y diwydiant bwyd a diod wedi cymryd cam sylweddol ymlaen dros y 15 mlynedd diwethaf, yn goresgyn heriau anodd.

Ond mae'n amlwg bod potensial mawr ar gyfer twf rhyngwladol ymhlith nifer o fusnesau bwyd Cymreig, waeth pa mor fawr neu fach, cyn belled bod ganddyn nhw'r cynnyrch cywir, cymorth priodol a'r hyder i fynd ar drywydd cyfleoedd rhyngwladol.

Cadwch lygad allan am fwy o gynnyrch Cymreig ar eich pl芒t wrth deithio tramor yn y dyfodol.

Disgrifiad o'r llun, A fydd Penderyn yn allforio rhagor o'u chwisgi Cymreig yn y dyfodol?