Genod o Gaernarfon i gynrychioli Cymru

Ffynhonnell y llun, Face of the Globe

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd Lauren, Jessica ac Efa Haf yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Face of the Globe ym Mharis y flwyddyn nesaf

Fe fydd merched ifanc o Gaernarfon yn mynd i Baris i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol i blant a phobl ifanc.

Ddydd Sul, 30 Awst, fe gynhaliwyd rownd derfynol genedlaethol yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel un o brif gystadlaethau pasiant harddwch Ewrop yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli.

Efa Haf sy'n chwe blwydd oed, Jessica Williams wyth oed a Lauren Owen sy'n 13 oedd tair o'r prif ennillwyr.

Ar 么l nifer o gyfweliadau gyda phanel beirniaid cystadleuaeth 'Face of the Globe' yn ystod y dydd, fe gynhaliwyd y ffeinal yn y theatr.

Gan fod y tair wedi cyraedd y rownd derfynol, fe'u gwahoddwyd i'r llwyfan mewn tair rownd, gan agor y noson gyda dawns, cyn mynd ymlaen i gerdded ar y llwyfan mewn dillad gwahanol, ac yn y rownd olaf, roedd yn rhaid i'r cystadleuwyr ymddangos mewn gwisgoedd nos a chyflwyno eu hunain i'r beirniaid ac ateb cwestiynau gan y panel.

Ffynhonnell y llun, Face of the Globe

Disgrifiad o'r llun, Y foment pan glywodd Lauren mai hi oedd enillydd y gystadleuaeth dros Gymru

Dywedodd Lauren Owen: "Mae 'na lot o waith yn mynd i mewn i'r gystadleuaeth cyn y diwrnod ei hun, lot o waith paratoi, a gorfod gwneud dipyn o waith yn y gymuned a hel pres i elusennau. Oni'n meddwl i ddechrau mai dim ond edrychiad oedd yn bwysig ar gyfer y gystadleuaeth, ond mi geshi sioc fod 'na gymaint o waith i'w wneud.

"Athi'n dda iawn ar y noson, mi gafo ni lot o hwyl, dyma un o'r cystadlaethau cynta' i ni fynd iddo fo, a doedda ni ddim yn disgwyl ennill o gwbwl, mi ges i sioc o orffen yn y pump uchaf heb son am guro'r gystadleuaeth. Nesi jyst sefyll yn sownd a ddim yn gwybod be i ddweud."

Eglurodd Lauren ei bod yn mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau fel hyn ar hyn o bryd, ond ei gobaith yn y dyfodol yw astudio'r gyfraith.

Dywedodd Efa Haf, sy'n gyfnither i Lauren: "Roedd yn rhaid i ni wenu ar y beirniaid a cherdded n么l a mlaen ar y catwalk mewn dillad pinc efo enfys a sparkles arno fo. Oni'n rili hapus mod i wedi ennill, oni mor hapus oni isho crio.

"Dwi'n edrych ymlaen i fynd i Disney yn Paris i weld y princesses." meddai Efa Haf.

Ffynhonnell y llun, Face of the Globe

Disgrifiad o'r llun, Efa Haf yn cael ei choroni yn 'Mini Miss Wales' yn y digwyddiad yn Llanelli

Mae rhai gwledydd fel Ffrainc ag Awstralia wedi ceisio gwahardd cystadlaethau harddwch i blant yn y gorffenol, ac mae'r elusen Kidscape wedi galw am wahardd plant o dan wyth oed rhag cymryd rhan yn y fath gystadlaethau gan ddadlau fod y cystadlaethau yn elwa o fasnachu plentyndod mewn modd amhriodol.

Dywedodd Sarah Owen, mam Lauren wrth 大象传媒 Cymru Fyw nad oedd yn siwr iawn beth i'w ddisgwyl cyn i'r merched gystadlu yn y gystadleuaeth. "Do ni'm yn siwr os oedd o'n beth da bod plant ifanc yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

"Ond ar 么l bod yno, dwi'n falch iawn fod y genod wedi cystadlu, mae o'n lot mwy na jyst cystadleuaeth harddwch.

"Mae wedi bod yn gyfle da iawn iddyn nhw gyfarfod pobl eraill o bob rhan o'r wlad, ac wedi dysgu nifer o sgiliau newydd ac wedi rhoi hyder iddyn nhw.

"Mae hefyd wedi gwneud iddyn nhw fod yn ymwybodol o'u cymuned, drwy'r gwaith elusenol sy'n rhan o'r gystadleuaeth."

Fe fydd 28 o wledydd yn cystadlu ym Mharis yn y rownd derfynol.