Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Glo brig: Colli swyddi yn 'ergyd fawr'
Daeth y penderfyniad i gau safle glo brig yng Nglyn-nedd yn ddi-rybudd, yn 么l cynghorydd yn yr ardal.
Dywedodd cwmni Celtic Energy eu bod yn cau safle Selar, ger Glyn-nedd, ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf oherwydd gostyngiad ym mhris glo.
Dywedodd y cwmni nad oedd y bosib parhau i weithredu ar y safle yn ogystal 芒 safleoedd Nant Helen ac East Pit.
Fe all rhai swyddi gael eu symud i'r safleoedd yna, ond mae disgwyl i'r rhan fwyaf o weithwyr adael yn wirfoddol.
'Ergyd fawr'
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Jones bod y newyddion yn ergyd arall i'r ardal.
"Doedden ni ddim yn ei ddisgwyl o gwbl, daeth yn ddirybudd," meddai wrth 大象传媒 Cymru.
"Dwi'n cydymdeimlo gyda'r rhai fydd yn colli eu swyddi oherwydd does dim byd arall o gwmpas ar hyn o bryd.
"Dyma'r ail ergyd fawr i ni - caeodd safle Aberpergwm a nawr hyn. Mae wir yn ergyd i'n pentref."
Dywedodd prif weithredwr Celtic Energy bod yr "effaith ar y gweithlu a'u teuluoedd" yn peri gofid, ond ei fod yn gobeithio gallu lleihau hynny drwy ddiswyddo gwirfoddol.
Ychwanegodd y byddai'r cwmni yn cynnal trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol a'r llywodraeth i gynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio.