大象传媒

Galw am ddysgu Athroniaeth yn ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
CREFYDDFfynhonnell y llun, ARALL

Byddai myfyrwyr a'r gymdeithas ehangach ar eu hennill pe bai mwy o ddysgu Athroniaeth o fewn ysgolion Cymru, yn 么l un academydd blaenllaw yn y maes.

Ym mis Gorffennaf, fe gyhoeddodd y gweinidog addysg, Huw Lewis, ei fod am weld Addysg Grefyddol yn uno gyda Moeseg ac Athroniaeth yn y dyfodol i "helpu uno cymunedau".

Yn 么l y llywodraeth mi fydd unrhyw newidiadau i Addysg Grefyddol yn digwydd fel rhan o newidiadau ehangach i'r cwricwlwm addysg mewn ysgolion.

Dywedodd Dr Huw Williams, sy'n dysgu Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y byddai pobl ifanc yn elwa o "feithrin sgiliau ymresymu".

Ond dywedodd ei fod yn awyddus i weld Athroniaeth yn cael ei chydnabod fel pwnc yn rhinwedd ei hun - gyda chyfleoedd i'w hychwanegu i'r cwricwlwm mewn sawl ffurf, ar draws ystod eang o oedrannau.

'Meddwl beirniadol, creadigol'

"Mae trosolwg o gyflwr y pwnc yng Nghymru yn sicr yn awgrymu nad ydy athroniaeth ymhlith ein ffefrynnau," meddai Dr Williams wrth 大象传媒 Cymru Fyw.

"Ychydig o ysgolion sydd yn ei dysgu, a phan fydd hynny yn digwydd mae angen ymgeisio trwy un o fyrddau arholi Lloegr.

"Mae adrannau athroniaeth ein prifysgolion wedi'u cyfyngu i unedau cymharol fychan yng Nghaerdydd a Llambed, tra bod Bangor newydd ailagor Ysgol Athroniaeth a Chrefydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Dr Huw Williams yn dweud bod angen sicrhau bod y pwnc yn berthnasol

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y gweinidog addysg Huw Lewis gyhoeddi'n ddi-rybudd ei fod am weld pwnc newydd i ddisodli addysg grefyddol

Ond mae'n rhybuddio na ddylen ni "[g]wympo i'r fagl o gymryd yn ganiataol nad oes diddordeb yno".

"Rhan o'r her yw sicrhau bod y pwnc yn un sy'n berthnasol," meddai.

"Mae gofyn beth yw ein gwerthoedd ni neu ein hagwedd at fywyd yn eu hanfod yn gwestiynau athronyddol. Yn sicr ymysg y myfyrwyr rwy'n eu dysgu, mae yna awydd i ymwneud a derbyn yr her.

"Mae Athroniaeth yn gofyn am feddwl beirniadol, creadigol, a meithrin sgiliau ymresymu, sgiliau sydd yn berthnasol i beth bynnag mae rhywun yn dewis gwneud mewn bywyd, a galluoedd sydd 芒'r potensial i helpu ni gyfeirio'n hunain mewn byd sydd yn gynyddol gymhleth."

Dywedodd yr Athro Chris Norris, sydd hefyd yn dysgu yng Nghaerdydd, fod Athroniaeth yn bwnc hanfodol "o safbwynt meithrin ymwybyddiaeth feirniadol o'r byd o'n cwmpas a'r gallu i ymwneud 芒'r problemau dyrys sydd yn ein wynebu ni yn y gymdeithas gyfoes".