Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nodyn o LA
Mae Ceiri Torjussen wedi dod yn bell iawn ers dechrau chwarae piano a chwythu'r trwmped yn chwech oed.
Yn enedigol o Gaerdydd, mae bellach wedi ymgartrefu yn Los Angeles, California, ac wedi gweithio ar amryw o brosiectau sy'n adnabyddus ar draws y byd.
Yn 1998, enillodd Ysgoloriaeth William J. Fulbright i astudio ym Mhrifysgol De California ar 么l cael gradd dosbarth cyntaf mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Efrog.
Enillodd fedal Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd dair gwaith yn ogystal 芒 Medal y Prif Gyfansoddwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999.
Aeth yn ei flaen i drefnu'r gerddoriaeth ar gyfer rhai o ffilmiau mawr Hollywood, ac yn ddiweddar bu'n gweithio ar y ffilm ddogfen 'Mr Calzaghe' - sy'n olrhain hanes y bocsiwr o Drecelyn, Joe Calzaghe - ac sydd yn y sinemau nawr. Cafodd Cymru Fyw gyfle i holi Ceiri am ei yrfa hyd yma:
Sut ddechreuodd y diddordeb mewn cerddoriaeth?
Nes i ddechrau wrth astudio cerddoriaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a chwarae trwmped yn y bandiau a cerddorfaoedd lleol. Ar 么l hynny es i i Brifysgol Efrog i astudio cerddoriaeth, cyn symud i Los Angeles i wneud astudiaethau 么l-radd mewn cyfansoddi.
Yn fuan nes i ddechrau gweithio yn y byd ffilmiau yn LA a dwi wedi bod yn byw a gweithio yn America ers hynny.
Sut wnes di ddechrau gweithio ar ffilmiau?
Nes i ddechrau trwy wneud gwaith orchestrating ar ffilmiau stiwdio. Ro'n i'n gweithio llawer i gyfansoddwr o'r enw Marco Beltrami, yn cymryd ei ffeils cyfrifiadur a throslgwyddo'r gerddoriaeth i bapur score er mwyn i'r gerddorfa ei recordio yn y stiwdio.
Nes i weithio ar lawer o ffilmiau fel hyn, cyn dechrau cyfansoddi cerddoriaeth 'ychwanegol' i'r ffilmiau yma. Ro'n i, yn y cyfamser, yn cyfansoddi i ffilmiau byrrion ac i ffilmiau bach annibynnol.
Ers hynny dwi wedi bod yn cyfansoddi i bob math o ffilmiau - o action, thrillers, arswyd, a chomediau, i raglenni teledu o bob math, gan gynnwys y cartwn Dive Olly Dive (Oli Dan y Don) sydd wedi'i chwarae yn aml ar S4C!
Beth yw'r prosiect mwyaf i ti fod yn rhan ohono?
Dwi wedi gweithio ar ffilmau neu raglenni ar bob lefel. Efallai rhai o'r mwyaf o ran cyllideb oedd 'Die Hard 4', 'Terminator 3', 'iRobot', ac 'Underworld: Evolution'.
Beth wyt ti'n arbenigo ynddo fo a pha agwedd wyt ti'n fwynhau fwyaf?
Dwi'n arbenigo ar cyfansoddi i ffilmiau. Dwi wedi 'neud lot yn y byd arswyd a dram芒u neu thrillers tywyll a sci-fi. Mae'r rhain yn lot o sbort i weithio arnyn nhw gan fod rhywun yn gallu arbrofi efo synnau newydd a thrio pethau diddorol o safbwynt y gerddoriaeth.
Dwi hefyd yn gweithio lot ym myd ffilmiau dogfen, fel 'Mr Calzaghe'. Mae'r rhain yn wahanol iawn gan fod rhywun yn gorfod bod yn hyblyg iawn o ran steils o gerddoriaeth.
Mae un ffilm ddogfen yn gallu gofyn am unrhywbeth - o gerddoriaeth cerddorfaol, roc a gwerin i synnau electronig, disco, calypso, Indiaidd neu 'Latin' i gyd mewn un ffilm, so mae hi'n sialens hollol wahanol.
Pa mor aml fyddi di yn dod yn 么l i Gymru ac wyt ti'n mwynhau byw yn America?
Dwi'n dod 'n么l unwaith neu ddwy bob blwyddyn. Dwi'n mwynhau byw yn Los Angeles yn fawr - da ni'n byw mewn ardal dawel braf yn Topanga Canyon, felly dyw hi ddim mor wahanol i fyw yng nghanol y mynyddoedd yng Nghymru!
Beth yw dy obeithion am y dyfodol?
Dwi'n gweithio ar psychological thriller diddorol iawn ar y foment. Ar 么l hynny byddaf yn gweithio ar ffilm ddogfen arall sydd am draddodiad paentio unigryw yn America.
Baswn i'n hoffi gweithio ar ffilmiau a rhaglenni teledu gwych. Does dim ots am y genre - dim ond fod y trim creadigol, hynny yw y cyfarwyddwr, cynhyrchwr, golygydd ayyb, yn dda.
Dwi hefyd yn awyddus i gyfansoddi mwy yn y byd cyngherddol ac arbrofol (ar wah芒n i ffilm).
Dwi wedi gwneud llawer o gerddoriaeth cyngherddol yn y gorffennol. Ond 'swn i'n hoffi arbrofi gyda syniadau cerddorol newydd gyda phwyslais ar ddefnyddio offerynnau traddodiadol gyda synnau electronig yn y neuadd gyngerdd.