Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canser yn 18
Ar 29 Mehefin eleni, fe newidiodd bywyd Megan Davies am byth.
Roedd y ferch ddeunaw oed o Bwllheli, Pen Ll欧n, yn mwynhau cymdeithasu efo'i ffrindiau fel unrhyw ferch arall o'r un oed ac ar fin gorffen ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
Ond ar y diwrnod hwnnw, cafodd wybod ei bod yn dioddef o Hodgkin Lymphoma, math o ganser.
Torri'r tensiwn
O fewn wythnos, ychydig yn unig cyn iddi ddechrau triniaeth cemotherapi, fe benderfynodd gario 'mlaen fel yr oedd hi wedi bwriadu a mwynhau ei hun yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
"O'dd o ddim 'run fath achos o'dd pawb yn ffeindio allan mod i'n s芒l a ddim yn gwbod sut i ddelio efo fi," meddai. "Ond neshi jysd cario 'mlaen i fod yn fi fy hun.
"Ma'n ffrindia' agosa' i'n bod yn normal ond dydi'r bobl dwi ddim yn eu gweld bob dydd ddim yn gwbod sut i fod efo fi. Ond munud dwi'n bod yn normal mae o'n torri'r tensiwn."
Roedd Megan yn teimlo'r angen i sgwennu am ei phrofiad, a thrwy hynny, dechreuodd sgwennu blog ar-lein.
Pan gafodd y darn yma ei chyhoeddi, roedd y blog - - wedi cael mwy na 35,000 o hits, gyda thua 6,000 o ddilynwyr rheolaidd.
"Efo'r blog dwi'n trio - achos bo' fi'n bod mor onest - newid sut ma' pobl yn ymdrin 芒'r peth," dywed Megan. "Ma' pobl ofn siarad am ganser ac yn ei gysylltu fo efo marwolaeth. Ond ma' pobl yn byw.
"Ma' Mam wedi ca'l breast cancer felly o'n i'n gwbod sut i siarad am y petha' 'ma."
Colli gwallt ac IVF
Yn y blog, mae Megan yn cyffwrdd ar sgil-effeithiau'r driniaeth, gan gynnwys colli ei gwallt, a chael gwybod bod yn rhaid iddi gael triniaeth IVF er mwyn rhoi cyfle iddi gael plant yn y dyfodol.
"O'dd o'n sioc ofnadwy [cael gwybod am yr IVF] ond o'dd o jysd yn un hurdle arall o'dd rhaid i fi fynd drosto fo.
"Ar y cychwyn do'n i ddim yn meddwl fyswn i'n gallu 'neud o achos o'n i angan y chemo, ond o'dd rhaid jysd meddwl yn bositif."
Bellach yn 19 oed, mae Megan bron i dri chwarter ffordd drwy sesiynau cemotherapi.
"Mae o'n blino chdi. Ti'n gwely am wsos, ti'n ca'l wsos dda ac yn dechra' gwella, ond ti'n dechra' un arall wedyn.
"Ma' mywyd i ar pause. O'n i fod i fynd i Gaerdydd i nyrsio fis Medi ond dwi 'di gallu deferrio hwna, felly ga'i edrych ymlaen at hynny ar 么l gorffan y driniaeth ym mis Ionawr, gobeithio. Ond ma' fy nheulu fi a fy ffrindia' wedi bod mor gefnogol - nhw sy'n cynnal fi.
"Ma'r blog yn 'neud fi deimlo'n well hefyd achos dwi'n ca'l sgwennu fy nheimlada' i lawr, ac yn lle mod i'n mynd yn flin efo pobl erill dwi'n ca'l ei gymryd o allan ar y laptop!"
Ond oes 'na gyfnodau lle mae hi'n stopio, a meddwl "pam fod hyn wedi digwydd i fi?"
"Dwi 'rioed wedi cwestiynu hynna," meddai'n syth. "Mae [canser] yn beth mor gyffredin heddiw, mae o'n mynd i effeithio ar bawb rhyw ffordd neu gilydd.
"Dwi ond yn gobeithio fod y blog yma'n helpu pobl mewn rhyw ffor', ac yn g'neud hi'n haws i bobl siarad yn agorad am y peth."
Am fwy o hanes Megan, ewch i'r blog ar