Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pam bwydo o'r fron?
A ddylai mamau fwydo o'r fron mewn mannau cyhoeddus? Mae'n gwestiwn sy'n aml yn hollti barn.
Yr wythnos hon mae pwysigrwydd yr arferiad yn cael ei hyrwyddo yn ystod rhwng 1-8 Awst.
Mae Catrin Lliar Jones o Ben Ll欧n yn fam i ddau o blant. Mae hi'n amddiffyn hawliau mamau i fwydo eu babis yn y dull mwyaf naturiol:
Greddf naturiol
I mi mae'r ddadl yn syml. Meiddied neb fod wedi rhoi cerydd i mi am fronfwydo mewn mannau cyhoeddus.
Mi fysai giatiau tanllyd uffern wedi cael eu taflu'n agored gan ryddhau haid o hormonau blin ar geffylau dychrynllyd. Roeddwn i wedi ennill yr hawl a doedd neb yn mynd i'w ddwyn oddi wrtha'i.
Mae'r angen i fwydo yn reddfol, ond tydi'r weithred ddim. I fod yn onest, roedd yn un o'r pethau mwyaf poenus a rhwystredig dw i erioed wedi trio gwneud. Ond cynted ag o'n i'n hen law (fel o'n i'n benderfynol o fod) doedd neb yn mynd i fy nadu ei wneud yn unrhyw le.
Cefais fy magu yng nghefn gwlad yng nghol cymuned glos, lle'r oedd r么l y fam yn un amlwg a phwysig. Ro'n i'n gwybod bryd hynny fy mod yn benderfynol o fod yn fam dda, ac wrth i mi dyfu, tyfodd fy ngreddfau mamol yn gryfach. Ond hir bu'r aros i fod yn fam.
Taro'r botel
Rhwng Awst 2005 ac Ebrill 2008 a minnau eisoes yn gyfforddus yn fy nhridegau, cafodd dros gant o brofion beichiogi negatif eu gollwng yn siomedig i'r bin yn y stafell 'molchi. Roedd fy mreuddwyd yn araf ddiflannu fesul ffon blastig i'r sbwriel.
Drwy bob siom a rhwystr arall hyd fy nhaith bywyd, daliais fy ngafael yn y gred y bysai hyn, o leiaf, yn gweithio.
Crio nes i pan o'r diwedd ymddangosodd ail linell fach binc. Nes i grio fwy byth ar ddiwedd 30 awr o lafur aeth o ddrwg i waeth gan orffen yn y theatr. Yna, nes i grio gydag anobaith llwyr wrth ddarganfod, wedi'r geni, nad oeddwn i'n fuwch laeth mor dda ag o'n i 'di gobeithio byswn i, a bu raid taro'r botel.
Bwydo mewn car yn symud
Credais bysai fy ngreddfau mamol 'di gneud petha'n haws ond wnaethon nhw ddim. Felly brwydro oedd rhaid, gan ddefnyddio pob tacteg a dull (heblaw am 'eu rhwbio nhw gyda sebon llawr' fel awgrymodd fy Mam).
Yn y diwedd, talodd fy nyfalbarhad ar ei ganfed a meistrolais y dull o fwydo yn unrhyw le pryd bynnag oedd y galw yn dod, hyd yn oed wrth bwyso dros s锚t babi yng nghefn car oedd yn symud (ia, peidiwch 芒 deud wrth neb).
Mae San Steffan yn bell ar ei h么l hi. Meiddied neb ddweud wrth unrhyw fam, yn unrhyw le, a hithau wedi gobeithio, brwydro a chrio, bo' hi ddim yn cael bwydo ei babi. Mae pob un ohonyn nhw wedi ennill yr hawl - cywilydd o'r mwyaf ar unrhyw un byddai'n ceisio dwyn hynny oddi wrthyn nhw.
Ydych chi'n cytuno gyda Catrin? Cysylltwch gyda @大象传媒CymruFyw ar Twitter neu e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk