Rhybudd dioddefwr trosedd 'sextortion'

Disgrifiad o'r llun, Dywed y dioddefwr ei fod wedi penderfynu siarad am ei brofiad yn y gobaith na fyddai pobl eraill yn dioddef

Mae dyn o ogledd Cymru wedi rhybuddio pobl am beryglon cyfarfod dieithriaid ar y we, wedi iddo ddioddef trosedd sy'n cael ei hadnabod fel 'sextortion' - math o flacmel sy'n cynnwys lluniau neu fideos anweddus.

Dywedodd y dyn wrth 大象传媒 Cymru Fyw fod dynes oedd wedi cysylltu ag o ar y we wedi mynnu taliad o 拢6,000 ganddo.

Yn 么l yr heddlu mae'r drosedd yn un sydd ar gynnydd, gyda naw achos yn y gogledd yn ystod y mis diwethaf yn unig.

Cynllwyn rhyngwladol

Er bod y dyn yn credu ei fod yn siarad gyda dynes leol dros y we, mae'n dweud fod yr heddlu'n credu fod y ddynes mewn gwirionedd yn anfon negeseuon ato o orllewin Affrica, a'i bod hi yn rhan o gynllwyn ehangach i dwyllo dynion.

Dywedodd y dyn ei fod wedi derbyn cais yn wreiddiol gan y ddynes i fod yn ffrind iddo dros y we, ac fe ddechreuodd y ddau siarad drwy gyswllt fideo: "Roeddwn i'n gallu gweld hi'n glir.

"Oedd hi'n edrych fel hogan o Gymru - hogan gwyn gwallt tywyll - oedd hi'n hogan ofnadwy o ddel a deud y gwir. Natho ni erioed siarad, er mod i'n gallu ei gweld hi - roedd hi'n sgwennu pob dim i fi."

O fewn diwrnod fe drodd eu trafodaeth yn un rhywiol ei natur, ac fe ddadwisgodd y dyn o flaen camera dros y we iddi, cyn iddi hi wneud yr un peth. Ond y bore canlynol fe anfonodd hi fideo iddo yn ei ddangos yn dadwisgo, gyda bygythiad yn mynnu taliad.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r drosedd yn aml yn un ryngwladol. Yma, mae'r heddlu yn ynysoedd y Pilipinas yn targedu gangiau troseddol sy'n gweithredu o'r wlad mewn dulliau soffistigedig

Fideo

Dywedodd y ddynes wrth y dyn y byddai'r fideo yn cael ei chyhoeddi ar y we, ac fe fyddai hi'n dweud wrth bawb ei fod wedi dadwisgo yn y fideo i ferch wyth oed os na fyddai'n talu

"'Mae gen i rywbeth i ddangos i ti' medda hi. 'Duw - be?' medda fi.

"Wedyn dyma fi'n gweld fi'n hun yn tynnu'n nillad off - a dyma hi'n deud "Dwi'n mynd i roi hwn ar Facebook yn deud bo chdi wedi stripio i hogan wyth oed. Os dwi'm yn cael 拢6,000 gen ti dwi'n mynd i gario 'mlaen a'i roi o ar Facebook," meddai.

Pan wrthododd ei bygythiad, rhoddodd y ddynes y fideo ar wefan gymdeithasol i bawb ei weld.

Aeth y dyn at yr heddlu'n syth ac fe ddywedodd heddwas wrtho mai fo oedd yr ail ddyn lleol i wneud cwyn am y math yma o drosedd mewn amser cymharol fyr.

"Roeddwn i'n teimlo fel baw isa'r domen ar y pwynt yna wyddo chi. Roedd o'n deimlad afiach i feddwl fod rhywun wedi gwneud y ffasiwn beth i fi da chi'n gwybod.

"O'n i'n reit siomedig hefo fi fy hun hefyd fod o wedi mynd allan, a bod pobol wedi ei weld o achos bod y ddynes yma wedi bod yn trio blacmelio fi."

Problem gynyddol

Ddeuddeg mis yn 么l fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru sefydlu uned newydd i daclo troseddau dros y we, yn cynnwys achosion o flacmel yn defnyddio delweddau anweddus.

Mae'r Ditectif Ringyll Peter Jarvis yn gweithio i'r uned, ac yn dweud fod achosion o'r math yma wedi cynyddu'n ddiweddar.

"Da ni wedi gweld cynnydd, gyda 25 achos yn cael ei adrodd ers mis Ebrill yn unig a dim ond yn y mis diwethaf rydan ni wedi gweld twf gyda naw achos o flacmel ar hyd gogledd Cymru," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywed y Ditectif Ringyll Peter Jarvis mai blaenoriaeth yr heddlu ydi sicrhau diogelwch dioddefwyr

"Mae oedran y dioddefwyr yn amrywio rhwng 14 a 65 - felly mae hyn yn bryder.

"Mae 'na elfennau tebyg i bob achos - y dulliau maen nhw'n ei ddefnyddio, y platfforms cyfryngau cymdeithasol maen nhw'n ei ddefnyddio, fel Facebook, i ddod i adnabod pobl ac wedyn cael nhw i newid i Skype - a dyna sut mae pobl yn cael eu dal - derbyn ceisiadau ffrind newydd gan bobl nad ydyn nhw'n ei adnabod.

"Ac yna mae'r bygythiad am arian wedi cynyddu. Felly cyn hyn tua mis Ionawr pan wnaethon ni ddechrau roedden nhw'n gofyn am 拢250 - mae hyn wedi mynd i fyny i 拢6,000 mewn un achos diweddar.

"Yn fwy diweddar, ac yn genedlaethol, maen nhw r诺an yn gofyn am arian Bitcoins."

Blaenoriaeth

Er ei fod yn anodd dod o hyd i'r troseddwyr, blaenoriaeth yr heddlu ydi sicrhau fod y dioddefwyr yn ddiogel, yn 么l y Ditectif Ringyll Jarvis.

"Fe wnawn ni ymchwilio, ond mae'r troseddau'n mynd yn 么l i wledydd fel y Traeth Ifori, China, i Rwsia felly mae'n beth anodd.

"Ond fe hoffwn sicrhau pobl ein bod ni yma a'n prif flaenoriaeth ydi sicrhau eich bod yn ddiogel ac yn derbyn cefnogaeth - dyna'n prif swyddogaeth ni.

"Mae'n rhaid i chi gael yr hyder i ddod ymlaen ac fe wnawn ni ddelio gyda chi mewn ffordd ofalus a chefnogol, a sicrhau ein bod yn gwneud popeth i'ch cadw yn ddiogel."

Disgrifiad o'r llun, Mae Wayne May yn rheoli gwefan sy'n cynnig cymorth a chyngor i bobl sydd wedi dioddef o achos troseddau fel 'sextortion'

Yn 么l arbenigwyr mae troseddau o'r math yma yn cael eu trefnu a'u rhedeg o wledydd tramor.

Mae Wayne May yn rhedeg gwefan o'r enw 'Scam Survivors' sy'n cynnig cyngor i bobl sydd wedi derbyn bygythiad blacmel.

Mae'n dweud fod y twyllwyr yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol soffistigedig er mwyn creu argraff o fenywod 'rhithwir' neu 'virtual' sydd ddim yn bodoli mewn gwirionedd, i dwyllo dioddefwyr.

Yn aml, does gan y dioddefwr ddim syniad ei fod yn siarad gyda delwedd o ddynes sydd wedi ei greu gan gyfrifiadur.

"Mae 'na fath beth mae modd i chi ddefnyddio sy'n creu dynes rithwir, sydd gyda botymau mae modd i chi ei bwyso," meddai.

"Felly os baswn i'n dwyllwr, ac roeddech chi'n siarad gyda fi a dweud 'profa dy fod yn wir - coda dri bys i fyny'.

Fe fyddai modd gwneud hynny trwy ddefnyddio'r meddalwedd cywir, i ddal un bys, dau fys, neu wenu. Felly mae modd cael yr ymateb yna sydd yn gwneud iddo edrych yn wir iawn."

Disgrifiad o'r llun, Mae cynnydd wedi bod yn nefnydd gwefan Wayne May

Mae'r dioddefwr sydd wedi siarad gyda 大象传媒 Cymru yn dweud ei fod yn teimlo cywilydd am y digwyddiad ac yn fodlon siarad am ei brofiad yn y gobaith na fyddai rhywun arall yn cael ei dwyllo'n yr un modd yn y dyfodol.

"Fy nghyngor i i unrhyw un yn y sefyllfa yna ydi mynd at yr heddlu'n syth - sydd ddim isio bod a chywilydd - just mynd a'ch compiwtar hefo chi a'i ddangos i'r heddlu," meddai.

"Mae'n anhygoel ond fe allith o ddigwydd i rywun."