Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Triniaeth OCD Cymru yn 'gwbl annerbyniol' medd arbenigwr
Mae arbenigwr ym maes OCD [obsessive compulsive disorder] wedi dweud bod y ddarpariaeth a'r driniaeth mae cleifion yng Nghymru yn derbyn am y salwch yn "gwbl annerbyniol".
Yr Athro Paul Salkovskis yw arweinydd clinigol canolfan arbenigol y Gwasanaeth Iechyd i drin salwch yn ymwneud a phryder [anxiety] yn ne orllewin Lloegr, ond maen nhw hefyd yn trin cleifion o Gymru.
Dywedodd wrth Newyddion9 bod y gofal mae cleifion o Gymru yn ei gael cyn mynd i Loegr yn "wael ofnadwy", a'i fod yn pryderu na fyddai'r cleifion yn cael gofal sylfaenol heblaw eu bod yn mynd i Loegr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn disgwyl i fyrddau iechyd yng Nghymru gynnig triniaeth sy'n cyd-fynd ag anghenion cleifion, a'u bod wedi cynyddu gwariant yn y maes.
Yn 么l yr Athro Salkovskis mae'r sefyllfa yn waeth i gleifion o Gymru na yng ngweddill gwledydd Prydain.
Mae hefyd yn credu bod angen i fyrddau iechyd wella'r broses, a'r amseroedd aros y mae cleifion yn profi, i gael mynediad i wasanaeth arbenigol.
Dywedodd y gall gymryd blwyddyn rhwng rhoi cais i feddyg teulu a derbyn cadarnhad gan fwrdd iechyd, ond bod y broses wedi cymryd tair blynedd mewn un achos.
'Caeth i'r salwch'
Un sydd wedi dioddef oherwydd sgil-effeithiau OCD yw Manon Lewis, 26, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae hi wedi dechrau cyrsiau mewn dwy brifysgol, ond roedd rhaid iddi adael oherwydd yr OCD.
Yn 么l ei thad, John Lewis, mae hi'n gaeth i'w salwch - mae hi eisiau gweithio, ond heb driniaeth mae'n amhosib gan bod y rhan fwyaf o'i dydd yn cael ei dreulio yn cwblhau'r rheolau mae'i chyflwr yn dweud y bod rhaid iddi eu gwneud.
Gall gymryd dros 20 munud iddi ddewis torth o fara mewn siop a chymryd drwy'r bore i wneud ei brecwast, felly hefyd ei swper, ac y bydd hi'n ddeffro tan tua 4.30 y bore.
Aeth Manon at feddyg am y tro cyntaf pan yn 13, ond dywedodd y doctoriaid bod ei hymddygiad yn "rhan o dyfu i fyny".
Yn 2003 cafodd ddiagnosis o anorecsia, ond nid tan 2009 dywedodd meddyg wrthi ei bod yn dioddef o OCD.
Mae hi wedi bod yn aros am driniaeth ers hynny, ac er iddi symud i Gaerdydd yn ddiweddar er mwyn ceisio cael gofal gwahanol, mae hi'n dweud nad yw pethau'n newid.
Bellach, mae Manon a'i thad yn ystyried chwilio am driniaeth breifat yn Lloegr.
'Cynnig gofal addas'
Mae elusen OCD-UL yn dweud eu bod yn clywed "yn gyson" gan gleifion yng Nghymru sy'n aros yn hir am driniaeth, a'u bod yn pryderu bod "lefel y ddealltwriaeth sydd gan weithwyr iechyd meddwl yng Nghymru yn ddiffygiol, a bod cleifion yn aml yn derbyn triniaeth o safon isel".
Mae prif weithredwr elusen Gofal, Ewan Hilton, hefyd wedi galw ar y llywodraeth a byrddau iechyd i sicrhau bod "salwch fel OCD yn cael ei ddarganfod yn gynnar" er mwyn i bobl gael triniaeth cyn gynted a phosib.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae OCD yn broblem eithaf cyffredin yng Nghymru, sy'n effeithio ar tua 2% o'r boblogaeth.
Dywedodd llefarydd: "Rydyn ni'n disgwyl i bob bwrdd iechyd a gwasanaeth iechyd meddwl i allu cynnig gofal addas i anghenion yr unigolyn a dilyn cyngor sydd wedi ei roi gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol."
Ychwanegodd bod y llywodraeth hefyd wedi cynyddu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl a chynnig ystod ehangach o driniaeth.