Heriau darlledu mewn iaith leiafrifol

Ffynhonnell y llun, AFP

Wedi i Lywodraeth y DU gwtogi eu cyfraniad i gyllid S4C, mae'r sianel yn wynebu heriau ariannol.

Ond nid y sianel Gymraeg yw'r unig ddarlledwr fydd yn gweld gostyngiad yn eu cyllid yn y blynyddoedd nesaf.

Bydd rhaid i'r sianel Aeleg, 大象传媒 Alba, oroesi heb gyllid o San Steffan, wedi i'r llywodraeth benderfynu peidio adnewyddu grant o 拢1m y flwyddyn.

Ond sut mae sefyllfa'r darlledwyr lleiafrifol yn y DU yn cymharu 芒 gweddill Ewrop?

Bu 大象传媒 Cymru Fyw'n siarad efo'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Catalaneg

Yng nghymunedau ymreolaethol Sbaen, mae darlledu wedi'i ddatganoli yn rhannol - sy'n golygu fod gan lywodraethau cenhedloedd fel Catalonia a Gwlad y Basg yr hawl i sefydlu eu darlledwyr eu hunain.

Mae hyn yn wahaniaeth amlwg, yn 么l yr Athro Jones.

Ffynhonnell y llun, EPA

Disgrifiad o'r llun, Mae'r wasg Gatalaneg yn ffynnu, wrth i'r boblogaeth drafod annibynniaeth

Yng Nghatalonia, mae'r llywodraeth ddatganoledig yn ariannu darlledwr cyhoeddus, y CCMA, sydd 芒 chyllid o 343m Ewro ac yn rhedeg chwe sianel deledu yn yr iaith leol.

Ar ben hynny, mae cyfryngau preifat Catalaneg-eu-hiaith yn ffynnu gan fod "mwy o fuddsoddiad cyhoeddus ar draws pob maes wedi creu cyd-destun ble mae cyfryngau preifat yn gallu byw," yn 么l yr Athro Jones.

Ond efallai bod cymharu 芒'r Gatalaneg, sydd gan dros 9 miliwn o siaradwyr, ychydig yn optimistaidd. Beth am y Fasgeg, sy'n cael ei siarad gan 714,000 o bobl?

Basgeg

Mae tipyn mwy o blwraliaeth yn y cyfryngau Basgaidd na sydd yng Nghymru, meddai'r Athro Jones.

Mae dwy sianel mewn Basgeg - un gyffredinol gafodd ei sefydlu yn 1982, ac un wedi'i hanelu at blant gafodd ei sefydlu yn 2008, yr un cyfnod ag roedd s么n am sefydlu sianel Gymraeg i blant.

Yn ogystal, mae gan y Basgiaid ddwy orsaf radio genedlaethol yn darlledu mewn Basgeg yn unig, ac ystod eang o gyfryngau ysgrifenedig - papur dyddiol o'r enw Berria a nifer o gyhoeddiadau tebyg i bapurau bro sydd wedi dod at ei gilydd i wasanaethu ardaloedd ehangach ar bapur, radio, teledu a'r we.

Disgrifiad o'r llun, Taleithiau Bizkaia, Gip煤zkoa ac Araba sy'n rhan o'r Gymuned Ymreoledig Fasgaidd - ond mae pedair talaith arall yn rhan o diriogaeth draddodiadol y Basgwyr a'u hiaith

Yn 么l yr Athro Jones, mae maint y buddsoddiad cyhoeddus yn allweddol i lwyddiant y wasg Fasgaidd.

"Mae mwy o fuddsoddiad wedi bod yn natblygiad y wasg leol," meddai. "Mae cyllideb hyrwyddo'r Fasgeg cymaint mwy na'r Gymraeg - tua 40 miliwn ewro'r flwyddyn o gymharu 芒 thua 拢10m i'r Gymraeg.

"Dros y blynyddoedd - dyma'r pedwerydd degawd o fuddsoddiad yn yr iaith - mae'r gwahaniaeth yn dangos."

Valencia

Ond dydi'r sefyllfa ddim yn f锚l i gyd yn Sbaen. Yng nghymuned ymreolaethol Valencia, i'r de o Gatalonia, maen nhw'n siarad v补濒别苍肠颈脿, tafodiaith Gatalanaidd.

Ddwy flynedd yn 么l, fe gafodd y darlledwr yn y dafodiaith honno, RTVV, ei gau gan lywodraeth geidwadol y rhanbarthol er mwyn arbed arian.

Cafodd 1,700 aelod o staff eu diswyddo a'u gyrru allan o'r stiwdios gan yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, AFP

Disgrifiad o'r llun, Ar 29 Tachwedd 2013, fe ddarlledodd RTVV drwy'r nos, cyn i'r sianel gael ei chau gan yr awdurdodau

"Rhan o'r broblem yw fod y rhanbarthau yn Sbaen ddim yn cyfateb i diriogaeth hanesyddol ieithoedd," meddai'r Athro Jones, gan gyfeirio at y ffaith fod Catalaneg a'i thafodieithoedd yn cael ei siarad yn Valencia, yn yr Ynysoedd Balearaidd ac mewn rhan o Aragon, tu hwnt i ffiniau Catalonia.

Yng nghyfnod darlledu analog, roedd llywodraeth Catalonia'n rhoi mastiau ar ei ffiniau er mwyn gwasanaethu siaradwyr yr iaith yn y rhanbarthau cyfagos, meddai.

Ond nawr mae rhanbarthau'n gallu blocio signalau digidol i rwystro dylanwad sianeli Catalonia, ac i amddiffyn incwm hysbysebu eu darlledwyr eu hunain.

Ar y funud, felly, ychydig o siaradwyr v补濒别苍肠颈脿 sy'n gallu gwylio teledu yn un o'r tafodieithoedd Catalaneg.

Ond efallai bod gobaith iddyn nhw - mae'r glymblaid sy'n rheoli'r rhanbarth ers etholiadau Mai 2015 wedi addo ail-agor RTVV, i ddarparu teledu yn y dafodiaith unwaith eto.