Euro 2016: S4C i ddarlledu gemau Gr诺p B Cymru

Bydd gemau gr诺p Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc yn cael eu dangos yn fyw yn Gymraeg ar S4C.

Y sianel Gymraeg fydd yn darlledu'r tair g锚m yng Ngr诺p B yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn 11 Mehefin, Lloegr ddydd Iau, 16 Mehefin a Rwsia ddydd Llun, 20 Mehefin.

Dyw S4C heb gadarnhau pwy fydd yn cyflwyno'r rhaglenni byw eto.

Fe ddarlledodd y sianel uchafbwyntiau gemau rhagbrofol ymgyrch 2016 a welodd d卯m Chris Coleman yn cyrraedd rowndiau terfynol prif gystadleuaeth b锚l-droed am y tro cyntaf ers 1958.

"Rydym wrth ein boddau bod modd i gefnogwyr p锚l-droed ar draws y DU wylio gemau Euro 2016 Cymru yn yr iaith Gymraeg," meddai Sue Butler, golygydd chwaraeon S4C.

"Mae'n gwbl addas fod un o'r digwyddiadau mwyaf yn hanes chwaraeon ein cenedl ar gael yn ei dwy iaith genedlaethol. Mae'r daith fythgofiadwy yn parhau i wylwyr S4C, yn dilyn ein rhaglenni uchafbwyntiau estynedig o gemau rhagbrofol Euro 2016.

"Hoffwn ddiolch i'r darlledwyr 大象传媒 ac ITV am gydweithio'n agos 芒 ni i sicrhau fod y gemau yma ar gael yn y Gymraeg."