Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trefnwyr angladdau Ceredigion yn galw am newid y drefn
Mae rhai trefnwyr angladdau yng Ngheredigion wedi galw am newid y drefn sy'n bodoli wrth ymateb i farwolaethau sydyn.
Ar hyn o bryd mae tri chwmni o ymgymerwyr yn casglu cyrff ar ran y crwner pan mae rhywun yn marw'n sydyn, ac yn cael eu talu am bob galwad.
Mae un yn ne Ceredigion, un yn y canol a'r llall yn y gogledd.
Y cwmn茂au hyn sy'n gwneud y gwaith ers blynyddoedd ond mae'n ymddangos mai arferiad yw heb gytundeb na phroses dendro ffurfiol.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, wrth 大象传媒 Cymru nad oedd y broses yn ddigon tryloyw ac nad oedd digon o degwch i gwmn茂au eraill y sir.
Mantais annheg
Yn 么l Peter Evans, trefnydd angladdau yng Ngheredigion, roedd "pob sir arall yn wahanol" a'r gwaith delio 芒 marwolaethau sydyn "yn cael ei rannu".
Honnodd fod y drefn yng Ngheredigion yn rhoi mantais annheg i'r tri chwmni sy'n gweithio ar ran y crwner.
"Naw gwaith allan o 10 fe fydd teuluoedd pobl sy'n marw yn sydyn yn mynd gyda'r trefnydd angladdau sydd wedi casglu'r corff ... ac, yn aml, dyw'r teulu ddim yn gwybod bod yna ddewis," meddai.
Cyngor Ceredigion sy'n talu cyflog Crwner Ceredigion, Peter Brunton, ac yn gyfrifol am ei benodi.
Mae prif weithredwr y cyngor, Bronwen Morgan, wedi cwrdd 芒 chwmn茂au sydd wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i newid y drefn.
Dywedodd y cyngor eu bod yn bwriadu gofyn am "drafodaeth bellach" gyda Mr Brunton yngl欧n 芒'r broses dendro ar gyfer cyflogi ymgymerwyr yn achos marwolaeth sydyn.
Serch hynny, mae'r cyngor yn pwysleisio y gall teulu ddewis cwmn茂au gwahanol i ofalu am wasanaeth angladdol.
'Ddim yn dderbyniol'
Dywedodd Elin Jones AC: "Yr unig ateb 'dwi wedi llwyddo i ga'l i hwn gan y crwner yw bod y gyfundrefn hon wedi bod mewn lle ers nifer o flynyddoedd ... ei fod e yn bersonol yn hapus 芒'r gyfundrefn a'i fod e'n n teimlo nad oes angen newid hynny.
"Yn yr oes yma o dryloywder 'dwi ddim yn credu bod y math yna o agwedd yn dderbyniol."
Mae 大象传媒 Cymru wedi ceisio cysylltu 芒'r crwner am ymateb.