Rhybudd gan awduron am y diwydiant llyfrau yng Nghymru

Mae awduron a chyhoeddwyr yng Nghymru wedi rhybuddio bod toriadau arfaethedig i gyllid yn y diwydiant yn bygwth "llenyddiaeth unigryw" Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau grantiau i Gyngor Llyfrau Cymru (CLlC) 10.6% - tua £370,000 - erbyn 2016-17.

Mae cyhoeddwyr llyfrau annibynnol a thua 200 o awduron bellach wedi ysgrifennu at weinidogion yn gofyn iddynt ailystyried.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn trafod effeithlonrwydd arbedion gyda'r Cyngor Llyfrau.

Mae awduron - gan gynnwys bardd cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, y nofelydd Rachel Trezise, ​​a'r bardd Menna Elfyn - wedi arwyddo llythyr at y gweinidog diwylliant, Ken Skates AC, gan rybuddio bod y toriadau sy'n cael eu hystyried yn "anghyfiawn".

'Amhosibl i gyhoeddi'

Mae cyhoeddwyr annibynnol hefyd wedi ysgrifennu llythyr ar wahân i'r gweinidog sy'n dweud: "Heb y gefnogaeth hon, byddai'n fwyfwy amhosibl i awduron yng Nghymru i gael cyhoeddi yn y Gymraeg, oherwydd y lefel o gystadleuaeth fasnachol gyda'r cyhoeddwyr yn Lloegr.

"Mae'r diwydiant llyfrau yng Nghymru yn esiampl o'r gwaith anhygoel y gellir ei gyflawni ar gyllideb fechan. Dros y degawd diwethaf, er gwaethaf toriadau blynyddol i'w gyllideb, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llwyddo'n rhyfeddol i gynnal diwylliant cyhoeddi hyfyw, deniadol ac effeithlon. Yn sgil y toriadau arfaethedig, ni fydd parhau i wneud hyn yn bosibl."

Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru bod y cyllid maent yn ei dderbyn gan drysorlys y DU wedi cael ei dorri yn sylweddol ers 2010 ac roedd hynny'n golygu bod "penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud er mwyn diogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt fwyaf".

"Rydym mewn trafodaethau gyda Chyngor Llyfrau Cymru am sut y byddant yn gwneud arbedion o effeithlonrwydd, wrth flaenoriaethu a thargedu ei rhaglenni grant i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac felly yn diogelu swyddi cyn belled ag y bo modd," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y llefarydd hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ychwanegol i'r Cyngor Llyfrau ar gyfer gwaith cynnal a chadw brys ar eu pencadlys a chanolfan dosbarthu.